Ewch at gynnwys

Cinema Poster for April 2024

Rhaglen Sinema (cliciwch yma!)

Mwy na jyst sinema!

Mae sinema Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn fwy na jyst lle i wylio ffilmiau. Mae’n hafan i’r rhai sy’n hoff o gelf, yn llwyfan ar gyfer adrodd straeon, ac yn sianel ysbrydoliaeth. Mae ein sinema yn borth i fyd cyfoethog diwylliant, sy’n eich galluogi i archwilio persbectifau newydd, herio’ch credoau, a phrofi grym straeon ar lefel gwbl wahanol.

Gydag awditoriwm o 112 o seddi ni oedd y sinema annibynnol gyntaf yng Nghymru i gynnig darllediadau lloeren byw o’r byd opera, theatr a dawns, sydd bellach yn ffurfio rhan sylweddol o’n rhaglen.

‘Rydym yn ymrwymedig i barhau i gynnig amrywiaeth eang o ffilmiau a digwyddiadau arbenigol ac anarbenigol gyda rhaglen sy’n dangos ein hamrywioldeb a’n poblogrwydd.

Yr hyn sy’n ein gosod ar wahân yw nid yn unig ein hystod eithriadol o ffilmiau, ond hefyd ein hymrwymiad i feithrin ymdeimlad o gymuned.

Gwyliau

Mae ein partneriaeth gyda darparwyr Gŵyl Ffilmiau WOW (Cymru a’r Byd yn Un), sy’n arddangos y straeon pryfoclyd a dengar diweddaraf a wneir gan fenywod pwerus, gwneuthurwyr brodorol a’r adroddwyr straeon mwyaf cymhellol o bedwar ban y byd, yn creu cyfle unigryw i ymgysylltu â phobl ysbrydoledig.

Bob blwyddyn mae’n gŵyl Abertoir: Gŵyl Arswyd Ryngwladol Cymru, yn denu pobl o bob rhan o’r DU a thu hwnt. Cymysgwch â’r gymuned arswyd ac ehangwch eich gwybodaeth gyda sgyrsiau craff gan arbenigwyr o fewn y diwydiant. Efallai cewch chi gyfle hyd yn oed i gyfarfod â’ch hoff eiconau arswyd a dysgu’n uniongyrchol am eu crefft – cyfle nad yw efallai ar gyfer y gwangalon!

‘Rydym hefyd yn cynnal gŵyl animeiddio Siapaneaidd Kotatsu; yn dangos y ffilmiau sy’n ennill gwobrau IRIS yn arddangos gwaith gan wneuthurwyr LGBTQI+ a gwaith arbenigol pwysig arall.

Nid yw gwyliau a digwyddiadau arbennig yn ein sinema yn ymwneud â ffilmiau yn unig; maent yn gyfle i ddod at ein gilydd fel cymuned, i ddysgu, ac i gael ein cyffroi gan bŵer film.

Ehangu Mynediad

Mae ehangu mynediad hefyd yn rhan bwysig o’n rhaglen, gyda datblygiadau digidol yn cefnogi darpariaeth gyson o ffilmiau gyda disgrifiadau awdio ac is-deitlau. ‘Rydym yn cynnig sgriniadau ar gyfer Teuluoedd, Sgriniadau Ymlaciol a rhaglen o sgriniadau yn ystod y dydd yn ogystal â gyda’r nos. Ni yw’r unig sinema sy’n cynnig cynnwys ffilm hygyrch (Trwm eu Clyw a Disgrifiad Awdio) o fewn awr o deithio yn y car i Aberystwyth, a’r unig sinema yn y dalgylch hwn sy’n ymrwymedig i ddarparu amrywioldeb a chynwysoldeb yn ein rhaglen ffilm gydol y flwyddyn.

Ein Sinema

Mae ein sinema yn fan cyfarfod i’r sawl sy’n caru ffilm, yn eu galluogi i gymryd rhan mewn trafodaethau a rhannu mewnwelediadau gyda chyd-selogion. Ymunwch â ni ar gyfer sesiynau Holi ac Ateb yn dilyn y sgriniadau, cynulliadau Gwyliau Ffilm, a digwyddiadau unigryw sy’n eich galluogi i gymysgu gydag unigolion o’r un meddylfryd sy’n rhannu eich angerdd tuag at y sgrîn fawr.

Beth  Sydd Ymlaen

Sinema mis Rhagfyr

Sinema: Popeth