Price: £5.00
Grŵp Celf a Chyfeillgarwch - Celf er Lles
Dydd Mawrth 23ain Chwefror 2021 (5 Wythnos)
10:30am-12:00pm, £5 y sesiwn
Tiwtor: Martine Ormerod
Dosbarthiadau Zoom Ar-lein
Yn ôl ein harfer efo’r grŵp hwn, nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o greu celf, dim ond chwilfrydedd a pharodrwydd i arbrofi! Bydd Martine yn cynnig syniadau i’n hysbrydoli ac yn dangos amrywiaeth o dechnegau yn defnyddio gwahanol ddeunyddiau. Wrth i ni barhau i ddatblygu, bydd y sesiynau hyn yn archwilio dyfeisio ac addasu gyda’n creadigrwydd. Os ydych yn newydd i’r byd celf, ac mae angen arnoch le i ddysgu gydag eraill, neu pe hoffech gefnogaeth gyda’ch prosiect celf eich hun, mae’r grŵp hwn yn lle cefnogol a chyfeillgar i ddechrau.
Byddwn yn tynnu’n hysbrydoliaeth o waith artistiaid eraill, ein cartrefi, ein gilydd a’r byd naturiol.
Deunyddiau y byddwn yn eu defnyddio yn ystod y cwrs:
Papur cryf A4 & A3
Pensil
Rwber
Siswrn
Siarcol
Siarcol cywasgedig
Pin du
Inc
Papur trasio
Paent dyfrlliw
Paent acrylig
Pastelau
Cannwyll cwyr neu bastelau olew
Papur newydd (neu orchudd arall i’r bwrdd)
Peidiwch â phoeni os na fedrwch ddod o hyd i’r holl ddeunyddiau hyn; dewiswch y deunyddiau yr ydych yn mwynhau gweithio efo nhw - gallwn fod yn hyblyg!