DYMA SGRINIAD RHITHWIR I’W WYLIO YN EICH CARTREF
Bydd Canolfan y Celfyddydau yn derbyn canran o bob tocyn a werthir.
Zoé Wittock, Ffrainc 2020, 93 munud, is-deitlau
Mae Jeanne, dynes ifanc swil, yn byw gartref efo’i mam benrhydd sy’n farforwyn, ac yn gweithio’r sifftiau hwyr fel glanhawraig mewn parc adloniant. Mae ei mam yn awyddus iddi gyfarfod â dyn, ond mae’n well gan Jeanne aros yn ei hystafell yn tincro gyda gwifrau, bylbiau a darnau sbâr, gan greu fersiynau bychain o’r reidiau yn y parc thema. Yn ystod ei sifftiau hwyr y nos mae’n dechrau treulio amser efo’r reid cyffrous newydd Tilt-A-Whirl gan gyfeirio ato fel Jumbo. Gan ffeindio ei hun yn cael ei denu at ei oleuadau coch, crôm llyfn ac hydroleg seimllyd “ef”, daw Jeanne i’r penderfyniad mai’r perthynas gyffrous newydd y mae hi am ei dilyn yw gyda Jumbo.
Mae’r ysgrifenwraig-gyfarwyddwraig Zoé Wittock yn dod ag egni llawen, hiwmor hyfryd a steil swrrealaidd at fath anghyffredin o stori serch - rhwng merch a pheiriant - yn ei ffilm gyntaf. Mae cymryd persbectif Jeanne, a chwaraeir gyda ffocws ac emosiwn gan Noémie Merlant (Portrait of a Lady on Fire), yn caniatau i ni fynd i mewn i’w byd o hunan-ddarganfyddiad a’i gorfoledd tuag at wrthrych ei dyhead, tra bod ei mam ffyddlon yn cael trafferth yn deall a derbyn ei dewisiadau anghonfensiynol.