Dyma berfformiad awyr agored newydd, lle gall y gynulleidfa gymryd rhan, oddi wrth Jony Easterby (For the Birds), yn archwilio ein perthynas gyda choed a fforestydd. Yn y tywyllwch, rhwng y coed, mae'r gynulleidfa yn mynd ar daith trwy dirwedd o sain, golau a chân yn dilyn naratif ynglyn ag arcadia, gwladychiad, digoedwigiad, rhyfel, diwydiant, gwlaoli ac adferiad ecolegol. Gyda Nathaniel Mann (Dead Rat Orchestra), Emily Williams (Ember) a Matthew Olden (The Mighty Jungulator).
Yn cymryd lle ar safle's RSBP at Ynys-Hir. Nodwch bod y berfformiad yn cynnwys taith cerdded o amgylch 2km dros tir anwastad, ac rydym yn awgrymu bod cwsmeriaid yn cyrraedd yn gynnar i wneud yn siwr nad fyddent yn colli dechrau'r sioe am 7:30yh.
www.treeandwood.org.uk
GWYBODAETH BWYSIG I GWSMERIAID
• Amser: 7.30pm (prydlon)
• Lleoliad: RSPB Ynys-Hir, Ffwrnais Dyfi, Machynlleth, Powys SY20 8TA
• Mae'r digwyddiad yn yr awyr agored, yn cynnwys tua 2km o gerdded dros dir anwastad; gwisgwch ddillad ac esgidiau addas.
• Mae'r digwyddiad tua 2 awr.
• NI DDARPERIR CLUDIANT; RHANNWCH GEIR LLE BO MODD os gwelwch yn dda. Mae'r lleoliad yn safle gwledig unigryw gyda mynediad cyfyngedig, felly byddwch yn amyneddgar wrth i nhw barcio pawb, bydden nhw yn caniatáu digon o amser i chi barcio a cherdded i'r ardal berfformio cyn i'r sioe ddechrau.
CASGLU EICH TOCYN(NAU)
Os oes modd, casglwch eich tocyn(nau) o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Swyddfa Docynnau
Os nad yw'n bosib, dewch â'ch cadarnhad e-bost (argraffedig neu ar y ffôn) fel cadarnhad o'ch archeb/tocyn(nau) i'r sioe (RSPB, Ynys-Hir)
Ni chaiff eich tocyn(nau) ei anfon o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth i'r RSPB, Ynys Hir