Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman
TYLWYTH
gan / by Daf James
Mae Aneurin wedi bod yn dianc rhag ei orffennol, ond – mewn tro annisgwyl, diolch i Grindr – mae e wedi syrthio mewn cariad. Pan mae Dan ac yntau’n penderfynu mabwysiadu, mae'r ddau ohonynt ar ben eu digon. Ond wrth addasu i fywyd fel tad, a throi cefn ar orffennol gwyllt, mae ofnau duaf Aneurin yn dychwelyd.
Ddeng mlynedd ers y ddrama glodwiw ac arloesol Llwyth, mae Aneurin, Rhys, Gareth a Dada yn ôl mewn drama newydd, dyner a direidus gan Daf James. Gan daflu golwg grafog ar gariad, teulu a chyfeillgarwch, mae Tylwyth yn cynnig sylwebaeth feiddgar a phryfoclyd ar y Gymru gyfoes.
Canllaw Oed: 16+ Yn cynnwys iaith gref, golygfeydd o natur rywiol a themau aeddfed
18fed Hydref - Sgwrs cyn sioe i ddysgwyr am 6.30pm
18fed Hydref - Sgwrs ar ôl-sioe
Yn ystod y perfformiad, bydd Sibrwd (yr ap mynediad iaith) ar gael i destun yr awdio y ddrama yn Saesneg.