Mae Theatr na nÓg ac Aneurin Leisure yn cyflwyno dangosiad o’i gyd-cynhyrchiaid
NYE & JENNIE
Wedi ei ffilmio yn Y Met, Abertyleri Tachwedd 2017.
Ar gael i’w wylio ar Ddydd Sul 5 Orffennaf am 7.30yh, ar ben-blwydd y GIG. Bydd sesiwn cwestiwn ac ateb yn dilyn y sioe yn fyw ar Zoom, yng nghwmni’r ysgrifennwr Meredydd Barker, y cyfarwyddwr Geinor Styles a’r actorion Gareth John Bale a Louise Collins.
Archebwch yma i wylio’r sioe am ddim: https://nyeandjennie.eventbrite.co.uk
Archebwch eich lle ar y sesiwn cwestiwn ac ateb yma. Bydd y sesiwn yn cynchwyn syth ar ol y sioe: https://nyeandjennieqanda.eventbrite.co.uk
Roedd Aneurin Bevan a Jennie Lee yn gymrodyr, wedi rhannu fflat, ac wedi eiriol a brwydro dros sosialaeth; ef o Dredegar, ac yn un o feincwyr cefn penboeth y Blaid Lafur, a hithau’n ferch i löwr o Fife, ac yn AS Sosialaidd cyn bod yn ddigon hen i bleidleisio.
Wedyn, bu priodas; ef mewn cariad angerddol, a hithau’n ceisio dygymod â charwriaeth arall oedd newydd ddod i ben. Ill dau’n cael eu caru a’u casáu gan eu cyd-aelodau seneddol; ef oedd y ‘Bollinger Bolshevik’; hithau ei Arglwyddes Macbeth, yr angel dywyll ar ei ysgwydd. Datblygodd eu perthynas yn ystod blynyddoedd didostur y rhyfel, drwy anawsterau sefydlu’r GIG, gelyniaeth fileinig y 1950au, gyda’u cariad yn aeddfedu a dyfnhau. Dyma stori am bartneriaeth unigryw - un o briodasau gwleidyddol mwyaf eithriadol yr ugeinfed ganrif. Stori NYE & JENNIE
A enwebwyd am y Ddramodydd Gorau yn yr laith Saesneg – Gwobrau Theatr Cymru 2018,
Mae’r ddau ddigwyddiad am ddim, ond byddwn yn gofyn am roddion i gefnogi’r theatrau wnaeth gymryd taith Nye & Jenni ym mis Hydref 2018 ac sydd naw wedi colli eu hincwm oherwydd Covid 19.
www.nyeandjennie.com
www.theatr-nanog.co.uk