Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Mas ar y Maes, Stonewall Cymru ac OOMFF, gyda chefnogaeth gan Theatr Clwyd
Merched Caerdydd / Nos Sadwrn o Hyd
Dwy ddrama gyfoes wedi eu lleoli yn y brifddinas, gan ddau o’n hawduron mwyaf beiddgar.
Merched Caerdydd
gan Catrin Dafydd
Caerdydd yw cartref Cariad, Liberty ac Awen. Er eu bod nhw’n troedio llwybrau gwahanol iawn i’w gilydd, mae ganddyn nhw fwy yn gyffredin na’u dinas. Dyma dair o ferched ifanc, disglair ac, efallai, annisgwyl y Gymru gyfoes sy’n ceisio gwneud synnwyr o’u bywydau blêr. Merched sy’n ymrafael â’u gorffennol wrth geisio llywio’u dyfodol. Ond a fydd newid yn bosib? Neu a ydi eu ffawd eisoes wedi’i benderfynu?
Nos Sadwrn o Hyd
gan Roger Williams
Wedi i Take That chwalu perthynas Lee a Matthew mewn clwb nos yn y brifddinas, mae Lee yn cymryd camau cynnar, melys ar lwybr carwriaeth newydd. Am gyfnod byr mae bywyd yn fêl, ond ar ôl bob nos Sadwrn daw realiti oer bore Sul. Ac fel mae Lee’n darganfod, does dim byd yn para am byth.
Mae Merched Caerdydd / Nos Sadwrn o Hyd yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed.
Mae Merched Caerdydd / Nos Sadwrn o Hyd yn cynnwys defnydd o oleuadau strôb.
Mae Merched Caerdydd / Nos Sadwrn o Hyd yn gynhyrchiad Cymraeg ei iaith. I gael mynediad trwy gyfrwng y Saesneg yn ystod y perfformiad, defnyddiwch SIBRWD os gwelwch chi’n dda. Mae SIBRWD yn ap ar gyfer ffonau clyfar a thabledi sy’n arwain siaradwyr di-Gymraeg a dysgwyr y Gymraeg trwy’r perfformiad. Lawrlwythwch SIBRWD o’r App Store neu Google Play. Ceir mwy o wybodaeth ar sibrwd.com.