Teithiwch yn ôl mewn amser gyda sgyrsiau, caneuon, straeon a chlipiau ffilm! Noson ddifyr i nodi Mis Hanes LHDT+.
Bydd yr awdur Alison Child yn trafod ac yn darllen o’i chofiant newydd, Tell Me I’m Forgiven, sy’n ein tywys ni drwy fywydau’r deuawd Neuadd gerdd (a phartneriaeth ramantus) Gwen Farrar a Norah Blaney. Bydd Ali a’i phartner Rosie Wakley yn ein diddanu gyda rhai o’r caneuon roedd Gwen a Norah yn eu canu a gofyn pam bod y sêr hyn o’r 20au a’r 30au bron a’u hanghofio. Cafodd y llyfr ei ddisgrifio’n ddiweddar gan G Scene fel ‘a superb read’ – prynwch gopi wedi’i arwyddo ar y noson!
Bydd Queer Tales from Wales yn adrodd straeon o ferched y mwyngloddiau copr, marched sy’n reslo a dynion mewn tai pinc. Ac mewn cyflwyniad arbennig, bydd Yasmin Begum a Laolu Alatise o’r 1919 Race Riots Collective yn tywynnu goleuni arno gymunedau DALE (du, Asiaidd ac o leiafrif ethnig) a phobl lliw cwiar. Gan ddefnyddio tystiolaeth brin o’r archifau a chlipiau ffilm, byddent yn ail-siapio’n syniadau ni o Gymru nid yn unig y gorffennol, ond yn y presennol a’r dyfodol.
Yn gynharach ar yr un diwrnod bydd Yasmin a Laolu yn cynnal gweithdy creu zine.
Am fwy o wybodaeth am holl ddigwyddiadau gan gynnwys Taith Gerdded Hanes Cwiar o Amgueddfa Ceredigion, ewch i www.aberration.org.uk.