Ewch at gynnwys

Gallwn gadw tocynnau a archebir yn eich enw am bedwar diwrnod. Ar ôl hynny, cânt eu rhyddhau i’w gwerthu. Os byddwch yn archebu tocynnau ar ddiwrnod y digwyddiad/ffilm, bydd yn rhaid i chi dalu’n llawn wrth archebu. Os byddwch wedi archebu tocynnau a heb dalu amdanynt erbyn diwrnod y digwyddiad/ffilm, cânt eu rhyddhau i’w gwerthu.

Os na allwch ddod i berfformiad neu ffilm yr ydych wedi archebu tocynnau ar eu cyfer, gallwch anfon eich tocynnau yn ôl hyd at ddau ddirwrnod cyn y perfformiad ac fe anfonwn nodyn credyd llawn atoch. Neu gallwn newid eich tocynnau am berfformiad mwy cyfleus o’r un sioe neu ffilm. Os bydd y tocynnau i gyd wedi’u gwerthu, fe wnawn ein gorau i ailwerthu eich tocynnau i chi heb gost ychwanegol (ond ni allwn addo gwneud hyn).

Maen rhaid i chi roi pedair wythnos o rybudd er mwyn cael ad-daliad.  Os byddwch yn canslo ar ôl hynny, codir y tal llawn.  Mae Canolfan y Celfyddydau’ cadw’r hawl i ganslo cyrsiau ac, os digwydd hyn, bydd y ffioedd yn cael eu had-dalu’n llawn.

Visa, Mastercard, American Express, Switch – Caiff archebion a wneir trwy gerdyn credyd eu cadarnhau ar unwaith. 

Yn aml, cynigir gostyngiadau ar gyfer grwpiau o 8 neu fwy – ffoniwch 01970 623232

Nodir y prisiau gostyngol mewn cromfachau trwy’r daflen hon. Mae’r pris hwn ar gael i bobl 60+ sydd wedi ymddeol yn llwyr, pobl ifanc o dan 16 oed, myfyrwyr amser llawn, pobl ddi-waith a phobl anabl.

Er mwyn tarfu cyn lleied ag y bo modd ar gwsmeriaid eraill a pherfformwyr, gellir gofyn i bobl sy’n cyrraedd yn hwyr aros tan y bydd yn gyfleus cyn mynd i mewn i awditorium. Ni fydd pobl sy’n colli rhannau o berfformiadau am eu bod yn hwyr yn cael ad-daliad.

Ni chaniateir offer ffotograffeg na fideo mewn unrhyw berfformiad.