Sori, wedi gwerthu allan!
Taith Gerdded Hanes Hoyw o gwmpas Aberystwyth
Darganfyddwch hanes hoyw Aberystwyth ar y daith gerdded ddwy-awr rwydd hon. Byddwn yn archwilio llwybrau ac adeiladau’r dref lle bu pobl LHDTQ+ yn cyfrannu at fomentau arwyddocaol mewn hanes.
Ar y ffordd byddwn yn gwrando ar straeon am bobl LHDTQ+ o’r 1860au hyd at y 1990au. Ceir barddoniaeth gan enillwyr gwobrau Barddol a chanu ynghyd i’r sianti fôr Lesberados y tu allan i’r hen glwb nos lesbiaidd Wrecked. Byddwn hefyd yn clywed am yr hanesydd John Davies a ddaeth allan fel deurywiol yn Pride Caerdydd yn 2012 ac yn trafod sgandal y 1950au - a oedd Pennaeth y Brifysgol Goronwy Rees o ddifrif yn ysbïwr Sofietaidd ac yn hoyw? Ceir rhagor o syrpreisys ar hyd y ffordd. Efallai bydd gennych hyd yn oed eich stori eich hun i’w hadrodd. Trefnir gan Straeon Hoyw o Gymru, o dan arweiniad Jane Hoy.
Man Cyfarfod: The Bank Vault, 1 Stryd Newydd, Aberystwyth SY23 2AT
Tocynnau £8 / £5
Noder os gweler yn dda: Cyfrennir yr holl elw o’r daith gerdded hon at AllOut, mudiad byd-eang sy’n ymgyrchu’n lleol dros hawliau LHDTQ+:
www.allout.org.uk