Dathlwch Ddiwrnod Menywod Rhyngwladol gyda digwyddiad ar y cyd gyda WEN Cymru, Prifysgol Aberystwyth ac Aberration. Darganfyddwch 100 o fenywod anhygoel o'r gorffennol a'r presennol sydd wedi gweithio dros gydraddoldeb yng Nghymru. Gydag anerchiadau a cherddoriaeth fyw. Croeso i bawb.
Bydd y rhaglen yn cynnwys:
Arddangosfa WEN o bosteri amdano fenywod arwyddocaol ac ysbrydoledig, gorffennol a phresennol, sydd wedi gweithio dros gydraddoldeb yng Nghymru
Bydd Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru cynt, yn darllen ei barddoniaeth delynegol a theimladwy
Bydd Chisomo Phiri, Swyddog Menywod NUS Cymru, actifydd gwleidyddol Dinah Mulholland a'r arbennigwraig gyfreithiol Megan Talbot yn ffurfio panel difyr, wedi'i gadeirio gan Helen Sandler.
Bydd cerddoriaeth gan Cerys Hafana ar y delyn driphlyg Gymreig a Bright Field, sy'n canu cytgordiau gwerin a cherddoriaeth sanctaidd, yn ogystal â chyfansoddiadau cyfoes.
I weld y raglen llawn, os gwelwch yn dda ewch i wefan Spring Out.