Dewch i gael eich Ysbrydoli - Rhowch gynnig ar Greu!
'Rydym wrth ein bodd yn rhannu ein rhaglen Ddysgu Creadigol gyda chi ar gyfer y tymor sydd i ddod.
Credwn fod 'na rywbeth yma at ddant pawb - o fodelu mewn clai i theatr ieuenctid, o animeiddiad i ffotograffiaeth. Mae gennym Ysgol Ddawns, Ysgol Lwyfan a Theatr Ieuenctid sy'n ffynnu, yn ogystal â dosbarthiadau rheolaidd yn y celfyddydau gweledol ar gyfer oedolion a phlant.
'Rydym yn dîm bach, yn gweithio gyda thîm o dros 40 o artistiaid a thiwtoriaid talentog ac yn cynnal dros 7,000 o wersi bob blwyddyn. Mae llawer o'n cyfranogwyr yn astudio ar gyfer arholiadau LAMDA, RAD ac ISTD ac Ddyfarniad Celfyddydol, sy'n gallluogi pobl ifanc 5-25 oed i ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol mewn amrywiaeth o ffurfiau celf. Dewch ar eich pen eich hun neu dewch â ffrind i rannu'r hwyl! Yn aml mae'n bosibl ymuno â dosbarth ar ôl y dyddiad y mae'r cwrs yn dechrau, cysylltwch â ni i holi.
Gallwch ddysgu sgil newydd, datblygu crefft neu wella'ch sgiliau yn eich hoff ffurf gelf - y cyfan mewn amgylchedd cyfeillgar, cefnogol, gyda chyfleusterau rhagorol y byddai'n anodd dod o hyd iddynt unrhyw le arall yng Nghanolbarth Cymru.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth!
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
cymrydrhan@aber.ac.uk / 01970 622888
Cefnogir ein gwaith Addysg a Chymuned gan Gyngor Celfyddydau Cymru.