Sut i archebu
Galwch i fewn neu ffoniwch
Swyddfa Docynnau Canolfan y Celfyddydau (01970) 62 32 32
Ar agor Llun - Sadwrn 10 a.m. - 8 p.m.
Sul 1.30pm - 5.30pm
Ceir peiriant ateb y tu allan i oriau'r swyddfa, ac hefyd pan mae'r staff yn cymryd galwad eisoes. Gadewch eich enw a'ch rhif ffôn a byddwn yn ffonio chi'n ôl cyn gynted â phosibl. Croesewir y prif gardiau credyd.
Gallwch hefyd brynu tocynnau dros y cownter yng Ngahnolfan Groeso Aberystwyth twyth a leolir yng nghanoly dref.
Gallwch archebu eich tocynnau ar-lein 24 awr y dydd trwy ddefnyddio'r prif gardiau credyd neu ddebyd. Cadarnheir y tocynnau a rhifau'r seddi (lle bo'n addas) ar unwaith. Ni chodir tâl ar y cerdyn credyd, neu unrhyw dâl arall, pan archebwch ar-lein. Gofynnir i chwi ddod â'r cyfeirnod a roddir ar ddiwedd y proses archebu i'r Swyddfa Docynnau pan 'rydych yn casglu eich tocynnau. Cofiwch hefyd ddod â phrawf e.e. cerdyn myfyriwr os ydych yn hawlio consesiwn ar bris y tocyn.
Trwy'r Post
Pan 'rydych yn archebu trwy'r post cofiwch gynnwys eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn yn ystod y dydd yn ogystal â manylion am y sioe briodol. Anfonwch siec yn daladwy i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Os ydych am i ni bostio eich tocynnau atoch a wnewch gynnwys amlen wedi'i stampio a'i chyfeirio, neu gallwn gadw eich tocynnau yn y swyddfa i chi eu casglu.
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Prifysgol Aberystwyth
Campws Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3DE