Price: £4.00 to £5.00
Braslunio gyda Ruth
via Zoom
2-3:30pm, £5 (£4) y sesiwn
Cyfres o ddosbarthiadau arlunio ymlaciol, cyfeillgar ar lein i danio’ch dychymyg ac ysbrydoli’ch gwaith celf. Yn addas ar gyfer pob lefel, o ddechreuwyr i artistiaid profiadol.
Croesewir oedolion o bob gallu. Gan Ruth Koffer ar gyfer Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Archebwch eich lle yn y dosbarth ar-lein a byddwch yn derbyn manylion am sut i ymuno’r dosbarth drwy e-bost.
Braslunio gyda Ruth
Gellir mynychu’r dosbarthiadau hyn fel gweithdai unigol neu fel cwrs.
40 munud, wedyn egwyl lle ‘rydym yn gofyn i chi adael y dosbarth, mynd i nôl paned a dychwelyd ar ôl 5/10 munud. Wedyn sesiwn 40 munud o fraslunio wedi’r egwyl. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi.
Wythnos 2. Paentio gyda phenseli dyfrlliw
15fed Mehefin 2020
Darganfod y posibiliadau o ddefnyddio penseli dyfrlliw ar gyfer arlunio mynegol.
Beth sydd ei angen:
Penseli dyfrlliw (ar gael yn WH SMITHS, Amazon, The Works ayyb)
Cynhwysydd gyda dŵr
Offer rhoi min ar bensel
Brwsh paent (unrhyw faint)
10 dalen o bapur; unrhyw faint
Rhywbeth i bwyso arno
4 o eitemau yr hoffech eu darlunio megis planhigion, esgidiau, crochenwaith, addurniadau.
I baratoi ar gyfer y dosbarthiadau:
Gwnewch eich hun yn gyfarwydd â Zoom.
Gwnewch eich hun yn gyfforddus.
Cliriwch le ar gyfer eich eitemau fel y gallwch eu gweld yn glir. Ni fydd angen edrych ar y sgrîn ar hyd yr adeg ond bydd angen clywed fy awgrymiadau. Gallwch arlunio i ffwrdd o’r sgrîn. Os ydych yn hapusach yn eistedd ar glustog ar y llawr mae croeso i chwi wneud hynny. Ymlaciwch a gwnewch eich hun mor gyfforddus â phosibl.
‘Rydym yn gofyn i chi gadw’ch meicroffonau ymlaen fel y gallwn eich clywed chi’n sgriblan!
(os nad yw’n ddosbarth mawr iawn).