Operation Julie
Dod yn fuan!
Darganfyddwch fwy am ddatblygiad y sioe dros gyfnod o fod dan glo.
Breaking Bad yn cwrdd â Whisky Galore!
Operation Julie
Cydgynhyrchiad rhwng Theatr na nÓg a Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
Gan Geinor Styles
Wedi'i osod yn erbyn cefndir haf poeth 1976, haf o gigs am ddim, Led Zep a fflers, mae fferyllydd beniog yn brysur yn creu'r ffurf buraf o LSD.
Yn ddiarwybod iddo mae o dan wyliadwriaeth Heddlu Dyfed Powys sy'n esgus bod yn hipis.
A phan ddisgynnodd yr heddlu ar dai a chartrefi yn Nhregaron a Llanddewi Brefi ym 1977, chwalodd y gweithrediaddan un o'r cylchoedd cyffuriau mwyaf rhyfeddol a welodd y byd erioed.
Bydd y ddrama anarchaidd newydd hon gyda thrac sain prog-roc o'r 70au a chwaraeir yn fyw ar y llwyfan, yn adrodd stori anhygoel Operation Julie.
Mae'r sioe gyffrous ac eclectig hon yn gwarantu chwythu'ch meddwl!