Cwmni: Mark Bruce Company
“Welcome to my house. Come freely. Go safely; and leave something of the happiness you bring.”
Jonathan Goddard sy'n chwarae'r Cownt Fampir drwgenwog, wrth i'w uchelgeisiau sinistr a didostur herio hanfodion y gymdeithas Fictoraidd. Wrth i'w wrthwynebwyr gynllunio i frwydro yn ei erbyn, rhaid iddynt wynebu'r tywyllwch a'r anwaredd y tu mewn iddyn' nhw eu hunain.
Mae’r cwmni gwych hwn o ddeg o ddawnswyr eithriadol yn rhoi bywyd newydd i stori erotig ac hiraethus Bram Stoker mewn cynhyrchiad dawns hudolus a theimladwy. Gyda chymysgedd eclectig o gerddoriaeth sy'n cynnwys Bach a Mozart, Ligetti a Fred Frith, mae Bruce yn archwilio dulliau coreograffig sy’n amrywio o gynildeb clasurol i ddawns gyfoes angerddol.
Enillydd Gwobr Dawns Sky Arts y South Bank. Ni ddylid methu'r cynhyrchiad arbennig hwn.
“I’d be surprised if I saw a more entertaining piece of dance theatre this year. Kill for a ticket.” Yr Observer
Oedran: 14+ Hyd y perfformiad: 2 awr
Mewn cydweithrediad â Tobacco Factory Theatres, Pavilion Dance South West a Wilton’s Music Hall