Gan yr awdures arobryn Kaite O’Reilly
Beth sy’n digwydd pan ‘rydych yn dymuno cael bywyd gwahanol i’r un a ddewiswyd ar eich cyfer? Stori am ddyhead, dyletswydd, twyll a dial.
Ail-adroddiad dyfeisgar o hen fyth Cymreig lle nad yw dim cweit fel y mae'n ymddangos. Nid yw Rose yn gallu cofio beth daeth cyn y tŷ ar ochr y fforest unig. Dywed Gwynne iddo ei chreu hi'n hudol allan o'r blodau, ond nid yw hi mor siwr. Mae hi wedi chwarae rhan y wraig ffarm ddelfrydol i Lewis, sy'n cael ei gadw yn ei le gan ei ewythr Gwynne, gan dderbyn ei bodolaeth unig. Wedyn gwelir dieithryn yn y fforest. Pa mor bell y bydd hi'n fodlon mynd er mwyn dianc rhag y bywyd a ddewiswyd iddi?
Gan ddefnyddio ffurfiau celf amrywiol, mae'r darn hyfryd hwn o adrodd straeon yn nodweddu cerddoriaeth fyw, dawns, fideo, iaith arwyddion ac is-deitlau.
Yn addas ar gyfer 12+ Defnyddir is-deitlau gydol y perfformiad, gyda rhannau mewn iaith arwyddion.
“Powerful, striking and unique in many ways” The Stage
www.forestforge.co.uk