Mae Theatr Gorfforol DV8, sydd ag enw da yn rhyngwladeol, yn dod â'u cynhyrchiad newydd pŵerus i Theatr Genedlaethol Lloegr. Mae JOHN yn portreadu, mewn modd gwbl argyhoeddiedig, straeon bywyd go iawn, yn cyfuno symudiad a’r gair llafar er mwyn creu profiad theatraidd dwys a theimladwy.
Bu Lloyd Newson, Cyfarwyddwr Artistig DV8, yn cyfweld dros hanner cant o ddynion, yn gofyn cwestiynau personol iddynt, am serch a rhyw yn y lle cyntaf. Un o'r dynion hynny oedd John. Beth daeth i'r amlwg oedd stori sy'n eithriadol ac hefyd yn deimladwy. Bu blynyddoedd o drosedd, cyffuriau a brwydro i oroesi yn arwain John ar daith lle mae ei fywyd yn cydgyfarfod ag eraill, mewn lle annisgwyl, yn anhysbys i'r rhan fwyaf.
Peidiwch â methu'r cynhyrchiad newydd hir-ddisgwyliedig hwn, a ddarlledir yn fyw o'r Theatr Genedlaethol.
Oedran 18+ Hyd y perfformiad: 120 munud.
Noder bod JOHN yn cynnwys themâu sy'n addas i oedolion yn unig, iaith gref a noethni.