Un o grwpiau gwerin fwyaf poblogaidd yr Alban o’r degawd diwethaf, mae brigwyr y siartiau Talisk wedi teithio’r byd a chasglu nifer o wobrau mawr am eu sain egnïol a chelfydd, gan gynnwys y Belhaven Bursary for Innovation, Band Gwerin y Flwyddyn yng Ngwobrau BBC Alba Scots Trad, a gwobr gwerin BBC Radio 2.
Mae Mohsen Amini (Cerddor y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 2018), Hayley Keenan a Graeme Armstrong yn cyfuno consertina, ffidl a gitâr i greu sain llofnod aml-haenog a syfrdanol o swynol sydd wedi ennill cynulleidfaoedd ar draws y byd.
Mae ymddangosiadau yn nifer o brif wyliau – gan gynnwys cau prif lwyfan nos Sadwrn y 2019 Cambridge Folk Festival, yr enwog Tønder Festival yn Nenmarc, y Rainforest World Music Festival yn Borneo Malaysia, WOMAD UK a Last Plamas, dwy flynedd yn olynnol yn y Philadelphia Folk Festival, Edmonton Folk Festival, Milwaukee Irish Festival a pum tro yn Celtic Connections Glasgow – wedi creu dilyniant ffyddlon a chlod mawr gan y cyfryngau cerddoriaeth byd i’r triawd arloesol.
Aeth eu hail albwm Beyond yn fuan i frig siart cerddoriaeth byd iTunes pan ei ryddhawyd yn 2018, a chafodd adolygiad 5-seren yn y cylchgrawn blaenllaw Songlines, a wnaeth crynhoi’r band yn wych: “yn hynod o fachog ac yn annwyl...yn ffres, yn fywiog, yn fedrus ac yn chwareus o heini."