KING PLEASURE & THE BISCUIT BOYS
Cyfeiriodd Paul Jones ar BBC Radio 2 atynt fel “yr act fwyaf anodd i’w dilyn ers rhaniad y Môr Coch”. Ysgrifennodd Cylchgrawn Atomic o Efrog Newydd “I’r sawl sy’n dweud mai Americanwyr sy’n rhagori ar y ffurf gerddorol sigl, paratowch i gael eich profi’n anghywir. Mae’r combo Prydeinig hwn heb ei ail!” Dywedodd y Guardian “Y tu ôl i’r hwyl a’r amseroedd reitalyd ceir band hynod dalentog a thrylwyr”.
Gyda thros 6500 o berfformiadau mewn 21 o wledydd o dan eu belt yn ystod 30 mlynedd ar y ffordd, mae King Pleasure & The Biscuit Boys yn fwy na jyst band sigl a jeif gorau’r byd - maent yn sefydliad! Yn ystod yr amser hwnnw buont yn perfformio gyda B.B. King, Cab Calloway a’i Gerddorfa, Ray Charles a’r Blues Brothers Band go iawn - yr un o’r ffilm.
Maent wedi chwarae ar 36 o sioeau radio ac wedi ymddangos ar y teledu 73 o weithiau, gan gynnwys Blue Peter a The Teletubbies, yn ogystal â’r gyfres Paradise Club lle nhw oedd y Band Tŷ. Buont yn ymddangos hefyd ar Challenge Anneka, The Gadget Show ac ar hysbyseb boblogaidd ar ran y Loteri Genedlaethol - heb sôn am ymuno â John Barrowman i gyflwyno fersiwn o I Get A Kick Out Of You ar Live And Kicking.
Yn arw, yn gryf ac yn rocio bob amser, mae King Pleasure & The Biscuit Boys wedi ymddangos mewn gwyliau cerddoriaeth, cyngherddau a chlybiau ledled y DU ac Ewrop - ac maent yn parhau i gymryd rhan yng Ngŵyl Jas a’r Felan Birmingham lle maent wedi arwain ar y llwyfan ers pedair blynedd ar ddeg. Ar hyd y ffordd mae’r band wedi recordio 11 albwm ar gyfer Big Bear Records, a ddosberthir ledled y byd.
Aelodau’r band yw King Pleasure [llais a sacsoffon bariton], Boysey Battrum [sacsoffonau alto a thenor], Bullmoose K Shirley [gitarau], Mighty Matt Foundling [piano], Shark Van Schtoop [bas], a Gary ‘The Enforcer’ Barber [offerynnau taro].