Mae’r gitarydd/cyfansoddwr yn chwarae ac yn cyflwyno ei gyfansoddiadau o fewn ffurfiau traddodiad gwych fflamenco. Cyfoethogir ei steil cywrain trwy ddefnyddio cyn lleied â phosibl o chwyddleisio er mwyn dal y sŵn fflamenco pur. Mae ef wedi recordio 20 albwm, wedi ymddangos mewn ffilm yn 17 oed ac ers hynny wedi gwneud tair ffilm gyda’i gwmni dawns.
Yn cael ei bleidleisio’n un o’r 3 gitarydd fflamenco gorau yn y byd gan Guitar Player USA, mae Juan Martín wedi twrio’r byd yn chwarae mewn cyngherddau o Shanghai a Melbourne i Efrog Newydd yn ogystal â chymryd rhan yng Ngŵyl Jas Montreux. Mae critigyddion wedi cymharu ei ddoniau cyfansoddiadol gyda gwaith Albéniz, Turina a Tárrega. Chwaraeodd yn ystod dathliadau penblwydd Picasso yn 90 oed ac mae ei lyfrau ar ddysgu chwarae’r gitrâr wedi cael eu cyfieithu bellach i lawer o ieithoedd eraill gyda selogion yn cyfeirio at ei lyfr gwreiddiol fel ‘Beibl’ y gitâr fflamenco.
‘Cerddoriaeth gyfoes hynod soffistigedig’
International Herald Tribune
‘Chopin y Gitâr Fflamenco’
Berner Nachrichten, y Swistir
‘Un o’r tri gitarydd fflamenco gorau yn y byd’
Guitar Player, UDA
‘Cawr y traddodiad gitâr fflamenco’
The Times, Llundain
‘Mae ei grŵp yn mynd â ni ar daith gyfareddol trwy Dirwedd Andalucia’
Sunday Times