‘DARK SIDE OF THE MOON LIVE’ - A RHAGOR O GLASURON PINK FLOYD
CYFLWYNIR Y SIOE HON MEWN SAIN GWADRAFFONIG OGONEDDUS
Croesewir Darkside, Sioe Pink Floyd, yn cyflwyno cerddoriaeth band roc mwyaf blaengar Prydain, yn ôl i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth gyda noson o Pink Floyd clasurol yn nodweddu’r albwm yn ei gyfanrwydd, fel y’i bwriadwyd, mewn sain gwadraffonig.
Ar ôl dwy flynedd ar bymtheg o dwrio, yn chwarae mewn theatrau ledled y DU, bydd saith o gerddorion yn cyflwyno’r sioe gydag empathi ac angerdd, yn chwarae traciau o ôl-gatalog anferth Pink Floyd, o ddyddiau hudolus cynnar y sefydlydd Syd Barrett, ymlaen trwy’r albymau eiconig diweddarach, oedd yn adnabyddus am eu strwythurau cymhleth.
Bydd y pwyslais ar atgynhyrchu’r profiad o Pink Floyd yn fyw ar y llwyfan yn y 70au pryd, ym marn llawer, ‘roedd y band ar ei orau. Mae’r Cariss Auburn wych yn cymryd ymlaen rôl Clare Torry, a berfformiodd ‘The Great Gig in the Sky’ ar albwm gwreiddiol 1973 Pink Floyd, Dark Side of the Moon, yn ail-greu’r llais enigmatig unigryw hwn gyda’i sainlun allddaearol sydd wedi bod yn cyfareddu cynulleidfaoedd dros y blynyddoedd.
Fel y disgwylir, mae’r sioe yn cynnwys sioe olau laser drawiadol a dramatig gyda delweddau atgofus a chyfresi animeiddiedig yn cael eu taflu ar sgrîn gron, y cyfan yn nodweddion allweddol o berfformiadau byw Pink Floyd.
AR GYFER FFANS FLOYD GAN FFANS FLOYD.