Jennifer Price (Medi-Tachwedd 2012)
Mae Jennifer Price yn harneisio dulliau print sylfaenol a thraddodiadol, ac yn eu troi wyneb i waered, fel bod y canlyniadau yn croesi ffiniau printio, arlunio, cerflunwaith, gosodweithiau ac ymyriad y cyhoedd. Mae’r gwaith yn cyfeirio at haenau cymhleth o ddiwylliant materol a rôl yr artist gweledol mewn oes gymhleth y cyfryngau. Ei huchelgais yw i adeiladu ar draddodiad poblyddol gwaith print fel modd o gyflwyno ymarfer yr artist gweledol i sbectrwm eang o ddiwylliant.