Ganed Jean-Yves Vigneau ar ynys fechan, rhan o Ynysoedd Magdalen, yn nhalaith Quebec yng Nghanada – lle y gallai weld y môr ym mhob man o’i gwmpas, dim ond drwy droi’i ben. Tirwedd a diwylliant yr ynysoedd a fu’n gyfrifol am siapio’i fydolwg.

Dros y blynyddoedd, mae wedi trosi’r ymlyniad hwn wrth fywyd ar yr ynysoedd i gorff o waith sy’n cynnwys cerfluniau, gosodwaith, arlunio, ffotograffau a fideos. Mae ei waith diweddaraf yn archwilio agweddau eraill ar y dirwedd forol sydd yn aml yn cael ei ysbrydoli gan chwedlau a mythau, a’i hanes ef ei hun yn cael hyd i fynegiant mewn tirlun newydd.

  • Prifysgol Aberystwyth
  • Cyngor Cylfyddydau Cymru
  • Llywodraeth Cymru
  • Loteri Genedlaethol
  • Cyngor Sir Ceredigion

Designed by View Creative & crafted by Un.titled