Heather Phillipson (Medi-Tachwedd 2010)

Yn gweithio'n bennaf gyda'r ddelwedd symudol mae Phillipson, sy'n gerddores hyfforddiedig gyda diddordeb hefyd mewn barddoniaeth, yn defnyddio delweddau, sain, iaith a pherfformiad i danseilio cysylltiadau penodol. Gan gyfeirio at sinema, llenyddiaeth a cherddoriaeth mae'n trawsosod strwythurau cyfansoddol a llenyddol i mewn i ddyfeisiau gweledol er mwyn creu tensiynau rhwng ystyr a diffyg ystyr, difrifwch a gwiriondeb.