Register now!
Archebwch ar-lein
SWYDDFA DOCYNNAU: 01970 62 32 32
Iau 21 Mawrth 2019 i Iau 28 Mawrth 2019
Gallwch fwynhau darllen y wybodaeth am y gweithgaredd hwn ond ni fedrwch archebu ar-lein ar ei gyfer.
Mae Gŵyl Ffilm WOW yn dychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth am ei deunawfed flwyddyn! Dewch i ymuno yn y parti a dathlu rhyfeddodau sinema’r byd. Mae cymysgedd cyfoethog WOW yn cynrychioli’r gorau oll ym maes ffilm o bedwar ban y byd. Gallwch ddisgwyl ffilmiau yn dangos profiadau dynol amrywiol yn Affrica, Asia, Dwyrain Ewrop a thu hwnt a fydd yn eich syfrdanu.
Eleni mae gan yr ŵyl thema 'Werin Byd-eang' sy'n rhannol mewn partneriaeth â phrosiect GLOBAL-RURAL Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth. Mae gennym pwyslais ar Dde America gyda phinsiad o siamanistiaeth yn rhedeg drwyddo, a'n ffocws arferol ar y 'raddfa F' sy'n golygu bod hanner ein ffilmiau'n cael eu gwneud gan ferched.
Ychwanegiad cyffrous yn 2019 yw “Abercon”, diwrnod o animeiddiadau a gweithdai (Sadwrn 23ain Mawrth). Wedi’i drefnu mewn partneriaeth â Mencap Ceredigion, mae diwrnod “Abercon” yn enghraifft wych o’r ffyrdd y gall sinema’r byd gyfoethogi ein bywydau ni yma yn y Gymru wledig.
Ewch i wefan yr ŵyl i weld y rhaglen llawn, neu defnyddiwch y dolen sinema i weld y ffilmiau i gyda ar ein gwefan ni.
‘Rydym yn defnyddio cwcis i wella eich profiad. Trwy wylio cynnwys ein gwefan ‘rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Darllenwch ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis.