Ewch at gynnwys

22-28 Mawrth 2024

Yn adeiladu ar lwyddiant taith Gymreig y llynedd, mae Gŵyl Ffilm WOW yn dychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth o Fawrth 22 – 28, gan ddod â’r gorau o sinema’r byd i stepen eich drws.

O naratifau gafaelgar i straeon go iawn sy’n tanio sgyrsiau, mae gŵyl sinema byd fwyaf sefydledig y DU yn addo saith niwrnod llawn adloniant a thrafodaethau pryfoclyd. Ymunwch â phrofiad yr ŵyl a mwynhewch hanesion o wahanol gorneli’r byd ac o lefydd nad ydych yn eu gweld yn aml ar y sgrîn fawr!

CYNIGION ARBENNIG WOW

Bachwch 3 thocyn am £18 yn unig!

Mynnwch docyn llawn WOW am £60: Dewiswch bob un o 18 digwyddiad WOW, a gwyliwch gyfanswm y pris yn gostwng i £60 yn unig wrth i chi dalu!

Rhaglen 2024