Register now!
Archebwch ar-lein
SWYDDFA DOCYNNAU: 01970 62 32 32
Iau 1 Awst 2019 i Sul 15 Medi 2019
Gallwch fwynhau darllen y wybodaeth am y gweithgaredd hwn ond ni fedrwch archebu ar-lein ar ei gyfer.
"‘Rydym wrth ein bodd yn dychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar gyfer Arddangosfa Haf flynyddol y Llunwyr, sy’n cyflwyno detholiad o’n gwaith diweddaraf. Wedi sefydlu’n wreiddiol yn 2006, ‘rydym yn griw o artistiaid gweledol o Ganolbarth Cymru, yn gweithio gyda gwahanol gyfryngau mewn dulliau sy’n amrywio o gynrychioliadol i haniaethol.
Mae llawer o’n gwaith yn seiliedig ar arlunio ac arsyllu, os yn y byd naturiol neu’r amgylchedd dynol a gwleidyddol.
‘Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod gwaith a chefnogi ein gilydd yn ein datblygiad artistig. ‘Rydym yn rhannu beirniadaeth a syniadau adeiladol, yn gofyn cwestiynau ac yn annog arbrofi gyda gwrthrychau a thechnegau."
‘Rydym yn defnyddio cwcis i wella eich profiad. Trwy wylio cynnwys ein gwefan ‘rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Darllenwch ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis.