Dathliad o'r ffurf ddynol, yn ei holl brydferthwch, lletchwithdod, seiliedig, di-sail, cyfforddus, anghyfforddus. Mae'r ystafell fywyd yn rhywle y gall pobl gysylltu gyda'r ddrama a'r gonestrwydd o fod yn fyw, mewn cyflwr gwbl agored.
Mae Arsylliadau o'r ystafell fywyd yn gyfres o luniau, gosodwaith a ffilm sy'n anelu at gysylltu'r gynulleidfa gyda'r egni a all ddod i'r amlwg pan mae rhywun yn cofio bod bywyd yn gwibio heibio'n gyflym iawn.
Gwahoddir chi yn gynnes i 3 ddigwyddiad:
Agoriad arddangosfa: Gwen 6ed Medi, 7yh Oriel 2; agorir gan yr artist Peter Stevenson a Carol Nixon, cadeirydd Ffrindiau Canolfan Celfyddydau Aberystwyth.
Darlunio rhyngweithiol yn Oriel 2, 28ain Medi, 3-5 pm - mae’r digwyddiad yma am ddim ond fydd angen archebu o flaen llaw. Mae Ruth yn eich gwahodd i ddarlunio dawnswraig broffesiynol yn yr oriel. Ystyriwch y ffigwr yn symud ac yn llonydd. Darperir deunyddiau. Yn addas ar gyfer pob lefel o allu. Croesewir oedolion a phobl ifanc dros 10 oed.
Ruth Koffer yn sgwrsio gyda Kate Tempest: Gwen 11eg Hyd, 7- 9yh, Theatr Y Werin; mae Ruth a Kate yn eich croesawu i'w darlunio mewn awyrgylch ymlaciol tra eu bod yn trafod gwaith Ruth. Darperir deunyddiau celf a lluniaeth ysgafn. Mae hon y ddigwyddiad am ddim, ond fydd angen archebu tocynnau o flaen llaw.
Gweler hefyd dosbarthiadau darlunio eraill a ddarperir gan Ruth yn y Ganolfan:
Portreadu
Peintio Mynegol i Ddechreuwyr
www.ruthkoffer.com
@KofferRuth

