Serameg brintiedig Golygfeydd Americanaidd Newydd gan Paul Scott
Mae Paul Scott yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei waith serameg heriol sy’n tynnu sylw at faterion gwleidyddol a diwylliannol Mae dyluniadau cyfarwydd sy’n gysylltiedig â llestri bwrdd traddodiadol yn y cartref yn cael eu trin yn gynnil er mwyn cynnig sylwadau ar ein bywyd a’n hamseroedd. Mae’r arddangosfa yn cynnwys gwaith newydd cyffrous a ysbrydolwyd gan y llestri pridd printiedig ‘Americanaidd’ glas a gwyn a gynhyrchwyd yn swydd Stafford yn ystod y bedwardd ganrif ar bymtheg ac a addurnwyd gyda golygfeydd dathliadol o’r weriniaeth Americanaidd oedd yn dod i’r amlwg.
Mae llawer o’r darnau a arddangosir yn ganlyniad i gyfnodau o deithio ac ymchwil yn UDA, lle ‘roedd gwaith Paul, yn ei eiriau ei hun, ‘yn cael ei yrru gan faterion y dydd a sefydliadau gymaint â’r dyhead i brofi tirweddau penodol.’ Astudiodd enghreifftiau o lestri troslunio Americanaidd mewn casgliadau amgueddfeydd ac ymwelodd â llawer o’r lleoliadau a nodweddwyd yn y llestri, gan gynhyrchu’n ddiweddarach sylwadau oedd yn adlewyrchu digwyddiadau cyfredol yn ogystal â newid hanesyddol a chymdeithasol. Mae’r gwaith serameg hwn yn ganlyniad i radd uchel o ddyfeisgarwch technegol, gyda motiffau gweledol yn cael eu haddasu’n hudolus ac ystyron yn cael eu trawsffurfio. Mae’r arddangosfa yn nodi 20 mlynedd ers i Paul Scott arddangos ei waith am y tro cyntaf yn Oriel Serameg Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Cefnogir ymchwil yn yr UD gan Sefydliad Alturas.
Cefnogir ymchwil yn archifau Wedgwood, Spode a’r Amgueddfa Fictoria ac Albert yn Llundain gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.
Delweddau
Cumbrian Blue(s), New American Scenery, Residual Waste (Texas) No: 4
Thumbnail: Cumbrian Blue(s), New American Scenery, Souvenir of Portland' No:5