Yn dilyn gyrfa hynod lwyddiannus yn dysgu Celf a Dylunio yn Ne Manceinion, dychwelodd Neil Johnson i Gymru yn 2007 i ganolbwyntio ar ei waith a’i syniadau ei hun.
Mae Neil yn aelod o Gymdeithas Ddyfrlliw Frenhinol Cymru, aelod sefydlu Celfyddydau’r Borth, aelod o’r grŵp Ystafell 103, aelod pwyllgor Celfyddydau Canolbarth Cymru ac ymddiriedolwr yr elusen newid hinsawdd Celf+Gwyddoniaeth. Mae wedi arddangos ei waith ledled Prydain ac yn rhyngwladol, gan gynnwys sioe solo yn Amgueddfa Gelf Fodern Cymru (MOMA).
‘Wrth alw yn ôl lle neu amser ‘rydym yn anaml iawn yn cofio un ddelwedd o safbwynt penodol. Mae fy ngwaith yn ceisio rhoi teimlad o ‘basio trwy’ le neu amser: weithiau mae’n rhythmig ac yn gydgordiol, weithiau’n anghytgordiol ac yn gythryblus. Mae cynnwys y lluniau yn dod o arsylliad, dychymyg, atgof a, phan mae’n angenrhediol, o ffynonellau eilaidd.
Mae rhai o’m gweithiau mwy diweddar yn ystyried gwyliadwriaeth ac arsylliad. Treulir gymaint o amser, egni ac adnoddau ar ysbïo a drwgdybiaeth. Mae hyn yn achos pryder mawr pan - yn ystod pandemig bydeang ac argyfwng newid hinsawdd - dylai dynolryw fod yn cydweithio.
Mae fy holl waith yn defnyddio cyfrwng tryloyw dyfrlliw ac ni ddefnyddir unrhyw baent du neu wyn.’
www.neiljohnsonart.com