Register now!
Archebwch ar-lein
SWYDDFA DOCYNNAU: 01970 62 32 32
Llun 1 Tachwedd 2021 i Llun 13 Rhagfyr 2021
Gallwch fwynhau darllen y wybodaeth am y gweithgaredd hwn ond ni fedrwch archebu ar-lein ar ei gyfer.
The Lives We Want
Ffenest y Piazza, Y Llygad a’r Cyntedd Isa
Tachwedd 1af - Rhagfyr 13eg
Mae’r pandemig coronafeirws sydd ohoni yn effeithio ar bob agwedd o’n bywydau, ac mae byw gyda’r coronafeirws wedi denu sylw at lawer o’n ffyrdd arferol o fodoli a’n ffyrdd o fyw ar y blaned hon, gan gynnwys ein cysylltiadau â byd natur. Mae Covid-19 wedi’n hatgoffa mewn modd trasig am y cydgysylltiadau yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt, gan danlinellu bygythiadau dychrynllyd newid yn yr hinsawdd a cholled bioamrywiaeth. Yn sgil y materion cysylltiedig hyn, mae angen arnom ymatebion diwylliannol, artistig a thechnolegol i’n helpu i ddod o hyd i weledigaethau newydd ynglyn â beth sy’n bwysig mewn gwirionedd a sut y dylem drin realiti a pherthnasau planedol - y rhai dynol a’r rhai nad ydynt yn ddynol.
Yn dilyn y thema hon, gwahoddwyd Canolfan y Dechnoleg Amgen a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth (israddedigion ac ôl-raddedigion) i gyflwyno cynigiadau am gyfraniadau ysgolheigaidd, creadigol neu feirniadol/greadigol at arddangosfa aml-safle a gynhelir yn gorfforol yn y Ganolfan Amgen a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
‘Rydym yn defnyddio cwcis i wella eich profiad. Trwy wylio cynnwys ein gwefan ‘rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Darllenwch ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis.