Register now!
Archebwch ar-lein
SWYDDFA DOCYNNAU: 01970 62 32 32
Mer 22 Medi 2021 i Sul 14 Tachwedd 2021
Gallwch fwynhau darllen y wybodaeth am y gweithgaredd hwn ond ni fedrwch archebu ar-lein ar ei gyfer.
"Dyma gasgliad o baentiadau, printiau a darluniau sy’n adlewyrchu fy mhroses ac agwedd tuag at baentio’r dirwedd dros y cwpwl o flynyddoedd diwethaf.
Y prif ffocws yn yr arddangosfa hon yw astudiaethau plein air a phaentiadau stiwdio o lannau afonydd a morlinau - yng Ngheredigion yn bennaf.
Daw f’ysbrydoliaeth o fod mewn mannau lle mae’r lliwiau a’r golau yn ysgogol - os yw hynny’n olygfa eang ar draws y bae neu’n gipolwg sydyn ar bwll disglair o ddŵr.
‘Rwy’n archwilio agweddau o gyfansoddiad, strwythur a gwaith haniaethol ac ‘rwy’n ymddiddori ym mhosibiliadau mynegiannol lliw. ‘Rwy’n arbrofi’n aml gyda ffyrdd o osod y paent, weithiau’n toddi darluniad mwy cadarn y ffurfiau er mwyn awgrymu’r profiad o fod yno."
"
‘Rydym yn defnyddio cwcis i wella eich profiad. Trwy wylio cynnwys ein gwefan ‘rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Darllenwch ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis.