Arddangosfa o osodweithiau cerfluniedig a phaentiadau gan Danny May
O fewn yr arddangosfa hon mae’r artist yn osgoi cynrychiolaethau traddodiadol o’r corff a byd natur ac yn cynnig portread mwy cythryblus ohonynt sy’n deillio o’r meddwl isymwybodol. Mae nodweddion cnawdol y corff dynol yn cael eu pwysleisio dros y nodweddion sy’n llai arwyddocaol yn ddiwylliannol ac yn feddyliol. Ysbrydolir y syniad hwn gan sut mae’r ymennydd dynol yn mapio pob rhan o’r corff ar raddfa arwyddocâd synhwyraidd. Yn yr un modd, yn y gyfres hon o gerfluniau a phaentiadau, mae’r artist yn defnyddio cysylltiadau diwylliannol rhwng lliw a siâp mewn cyfuniadau sydd ar yr un pryd yn gyfarwydd ac yn annisgwyl, gan gymylu’r llinell rhwng beth sy’n ymddangos yn ddymunol ar yr un llaw ac yn sinistr ar y llall.
Mae’r gweithiau celf yn aml yn cynnwys siapiau a ffurfiau cymesur megis conau a silindrau ochr yn ochr â siapiau afreolaidd ac organig. Mae hyn yn cyferbynnu’n fwriadol y duedd ddynol i gynllunio a rheoli gyda natur wyllt y bydoedd organig. At y pwrpas hwn, mae llawer o’r gwaith yn cael ei greu neu ei ddylanwadu gan y proses mecanyddol o durn wedi’i osod ochr yn ochr â mynegiant mwy rhydd a gyflawnir trwy gerfio â’r llaw neu waith paent mynegiannol.
Ystyrir y themâu hyn trwy gyfres o olygfeydd a chymeriadau a ysbrydolir yn fras gan y stori feiblaidd sef Cwymp Dyn yng Ngardd Eden. Ffocysir yn bennaf ar fotiffau symbolaidd y goeden, dyn a dynes mewn tirwedd neu le caeth. Mae’r arddangosfa yn aml yn cyfeirio’n weledol at y thema hon yn ogystal â rhai eraill yn hanes celf sy’n dathlu syniadau am baradwys, gormodaeth a marwolaeth megis The Garden of Earthly Delights gan Hieronymus Bosch, The Ambassadors gan Holbein neu The Joy of Life gan Matisse. Mae’r cysyniadau o brydferthwch a hylltra, cyfoeth a gwybodaeth, rhinwedd a gwyrdroad yn cael eu hystyried a’u dathlu fel nodweddion unigryw’r natur ddynol.
Mae’r teitl yn cyfeirio at ddyfyniad o waith Aristotle ‘’rydym yn mwynhau edrych ar bortreadau cywir o bethau sydd ynddynt eu hunain yn boenus i’w gweld, bwystfilod ffiaidd, er enghraifft, a chelanedd.’
Noddir y prosiect hwn gan
