Register now!
Archebwch ar-lein
SWYDDFA DOCYNNAU: 01970 62 32 32
Gwen 15 Ebrill 2022 i Mer 1 Mehefin 2022
Mae'r ffotograffydd Bruce Cardwell yn cynnig gwrogaeth weledol i fyd y bugail Cymreig. Mae'n dathlu ffordd o fyw a diwylliant sydd heb newid i raddau helaeth dros ganrifoedd lawer, ond sydd bellach yn wynebu amrywiaeth o fygythiadau dirfodol, megis newid blaenoriaethau cyllido amaethyddol y Llywodraeth a goblygiadau newid yn yr hinsawdd.
Mae'r cymunedau hyn yn gronfa bwysig o iaith Gymraeg, arferion traddodiadol a gwerthoedd diwylliannol. Fe'u cynrychiolir yn yr arddangosfa hon gan ddelweddau o unigolion, ac arsylwi ffotograffig ar weithgareddau sy'n ffurfio'r drefn flynyddol o fugeilio.
‘Rydym yn defnyddio cwcis i wella eich profiad. Trwy wylio cynnwys ein gwefan ‘rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Darllenwch ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis.