‘Aur, o’r oesoedd cynnar hyd at y dydd presennol, yw symbol eiconig cyfoeth’.
Efallai y bydd thema’r arddangosfa hon - Afonydd o Aur - yn atgoffa un ar unwaith am ddelweddau o arteffactau aur anhygoel yr Aifft Pharaonig a Mesoamerica, a gwareiddiadau hynafol eraill. Fodd bynnag, yr hyn na ddeellir yn aml yw’r gost ddynol ac amgylcheddol aruthrol sy’n gysylltiedig â chwilio am, cloddio a phrosesu aur.
Mewn cydweithrediad â Gwneuthurwyr Print Aberystwyth, Prifysgol La Trobe, Canolfan Dŵr a Iechyd Planedol Lincoln, a Phrifysgol Lincoln, mae Judy Macklin wedi trefnu a churadu arddangosfa a chyfnewid rhyngwladol rhwng Awstralia, Seland Newydd a Chymru. Gwahoddwyd artistiaid i fyfyrio ar y pethau hyn a materion cysylltiedig, sy’n ystyried y thema ‘Afonydd Aur’ dros amrediad o amser a gofod, o’r oesoedd cynnar hyd at yr unfed ganrif ar hugain a thu hwnt.
Digwyddiad agoriadol a thrafodaeth: Nos Lun 4ydd Mawrth, 6pm
Dewch i gyfarfod â’r artistiaid a’r gwyddonwyr am noson o edrych, gwrando, dysgu ac ymadwaith. Cyflwyniad gan Athro John Harvey, a chyflwyniad gan Judy a Mark Macklin yn trafod gwaith yr artistiaid a’r materion ehangach sy’n codi yn ei sgil ynglyn ag iechyd planedol yn yr unfed ganrif ar hugain. Yn dechrau yn Sinema Canolfan y Celfyddydau ac yn symud wedyn i’r oriel ar gyfer lluniaeth ysgafn a sesiwn C&A. Mae’r anerchiad hwn yn rhan o gyfres o bedwar yn 2019, yn cysylltu Orielau Aberystwyth yng Nghanolfan y Celfyddydau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yr Ysgol Gelf ac Amgueddfa Ceredigion - am ragor o wybodaeth ynglyn ag ‘Afonydd Aur’ neu Wneuthurwyr Print Aberystwyth cysylltwch â:
jude.macklin@btinternet.com