Register now!
Archebwch ar-lein
SWYDDFA DOCYNNAU: 01970 62 32 32
Sad 2 Hydref 2021 i Iau 25 Tachwedd 2021
Gallwch fwynhau darllen y wybodaeth am y gweithgaredd hwn ond ni fedrwch archebu ar-lein ar ei gyfer.
2 Hydref - 25 Tachwedd
Mae’r arddangosfa hon yn dathlu 21 mlynedd o Sculpture Cymru, mudiad aelodaeth sydd yn hybu cydweithio ac arbrofi. Ers i’r grŵp gychwyn yn 2000, mae dros 70 o gerflunwyr wedi cymryd rhan mewn 30 arddangosfa ledled Ewrop. Mae hyn wedi golygu trefnu gosodiadau; nid yn unig mewn orielau confensiynol, ond mewn parciau a gerddi, cestyll a’r dirwedd ehangach hefyd. Mae’r aelodau, wedi’u lleoli ar wasgar ar draws Cymru gyfan, wedi goresgyn problemau logistaidd enfawr er mwyn cynnal y digwyddiadau hyn, sydd wedi galluogi i gerfluniau unigryw gyrraedd cynulleidfa eang. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn i gyflwyno gwaith gan y grwp deinamig yma sydd yn archwilio wahanol deunyddiau a prosesau drwy ei gwaith sydd yn cynnwys carreg, pren, plastr, darlunio a gosodwaith.
‘Rydym yn defnyddio cwcis i wella eich profiad. Trwy wylio cynnwys ein gwefan ‘rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Darllenwch ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis.