Ewch at gynnwys

Mae’r wefan hon yn cydsynio’n rhannol â’r Cyfarwyddyd Hygyrchedd Gwefannau fersiwn 2.1 safon AA, oherwydd yr ‘anghydsyniad ac eithriadau’ a restrir isod.

Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hanfodol wrth ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ffeiliau PDF gyda gwybodaeth ar sut y gall defnyddwyr gyrraedd ein gwasanaethau. Mae’r wybodaeth yn rhai o’r ffeiliau hyn wedi ei defnyddio bellach i greu tudalennau yn HTML. Fodd bynnag, mae rhai ffeiliau PDF dal yn bodoli.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn i ni newid ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol wrth ddarparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw ffeiliau PDF neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddir gennym yn cyfarfod â safonau hygyrchedd.

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd mae fideo byw yn eithriedig rhag cyfarfod â’r rheoliadau hygyrchedd. Fodd bynnag, ‘rydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at unrhyw fideos newydd a lwythir i fyny i’r wefan.

Nid yw’r rheoliadau hyn yn berthnasol i gynnwys gwefannau a meddalwedd symudol a ddisgrifir fel archifau. Yn y rheoliad hwn – mae “archifau” yn golygu gwefan neu feddalwedd symudol sydd: (i) ond yn cynnwys deunydd nad oes ei angen ar gyfer prosesau gweinyddol gweithredol; ac (ii) sydd heb eu diweddaru neu eu golygu ar ôl 23ain Medi 2019

Darparwyd y datganiad hwn ar [26.10.2023]. Fe’i adolgwyd olaf ar [26.10.2023].

Profwyd y wefan hon olaf ym mis Hydref 2023. Gwnaethpwyd y prawf gan y darparwyr gwe Creo a’r system tocynnu Ticketsolve.

Defnyddiwyd y modd hwn i benderfynu ar y sampl o dudalennau i’w profi:

Arfau a ddefnyddiwyd ar gyfer Ticketsolve:

  • Jaws
  • NVDA
  • VoiceOver
  • – Defnyddiwyd Axe DevTools i ddod o hyd i unrhyw broblemau hygyrchedd oedd yn bodoli o fewn y rhaglen
  • Profi’r Allweddfwrdd

Mae amgylcheddau Pori lluosol wedi eu profi

  • MacOS: Chrome, Firefox, Safari
  • Windows 10: Chrome, Edge
  • Mobile (iOS): Safari
  • Mobile (Android): Chrome Gallwch ddarllen Adroddiad Hygyrchedd Ticketsolve 2023 yma: Ticketsolve – Accessibility Report.pdf

Tudalennau a brofwyd gan Creo:

Hafan – Home https://aber-arts.ubuntu.staging.creo

Beth sydd Ymlaen – Events https://aber-arts.ubuntu.staging.creo

Eich Ymweliad – Hyblyg

Cyfeiriadur Staff – Hyblyg

Cyswllt – Cyswllt

Arfau a ddefnyddiwyd ar gyfer Creo:

  • Page Insights
  • Axe
  • WAVE
  • BrowserStack
  • Siteimprove

Gallwch ddarllen adroddiad prawf hygyrchedd yma: https://googlechrome.github.io/lighthouse/viewer/?psiurl=https%3A%2F%2Faberystwythartscentre.co.uk%2F&strategy=mobile&category=performance&category=accessibility&category=best-practices&category=seo&category=pwa&utm_source=lh-chrome-ext

‘Roedd y tudalennau a brofwyd yn cydymffurfio â sgôr Hygyrchedd Lighthouse = 89-96

Gwaith Ychwanegol ac Argymelliadau

Ticketsolve

Tra bod rhaglen Ticketsolve (Ticketbooth) yn cydymffurfio ag anghenion WCAG 2.1 lefelau A ac AA mae ‘na rannau y gellir eu gwella.

Testun Amgen ar gyfer Sioeau

Mae rhestrau’r sioeau yn cynnwys delweddau sy’n cael eu cuddio rhag defnyddwyr sydd â nam ar eu golwg er mwyn cydymffurfio â safonau hygyrchedd a rhwystro problemau llywio. Dylai gwaith yn y dyfodol gynnwys ein galluogi i ddarparu testun amgen ar gyfer delweddau’r sioe, gan ganiatau dangosiad cynhwysfawr o ddisgrifiadau a delweddau fel ei gilydd.

Meini prawf WCAG 2.1 perthnasol, 1.1.1 Cynnwys nad yw’n destun.

Llywio’r allweddfwrdd yn well.

Ar hyn o bryd mae’r rhaglen yn gweithredu “Dolenni Sgipio” sy’n caniatau i ddefnyddwyr yr

allweddfwrdd sgipio at gynnwys y tudalennau. Mae hyn yn bodloni’r gofynion ond byddai’n bosibl ei ehangu i ddarparu nifer o ddolenni defnyddiol ar gyfer tudalen benodol. Byddai hyn hefyd yn datrys problemau a all godi o weithredu’r amserydd.

Meini prawf WCAG 2.1 perthnasol, 2.4.5 Ffyrdd Lluosog.

Mwy o ddefnydd o awto-gwblhau.

Byddai mwy o ddefnydd o awto-gwblhau mewn ffurfiau Ticketbooth yn gwella profiad y defnyddiwr, gan leihau ymdrech wrth gwblhau gweithrediadau fel cwblhau’r archeb a helpu datrys unrhyw broblemau gyda’r amserydd.

Meini prawf WCAG 2.1 perthnasol, 1.3.5 Pwrpas Adnabod Mewnbwn