Ers i’r Ganolfan agor ei drysau am y to cyntaf, mae ei chyfleusterau wedi bod yn datblygu ac yn ehangu’n gyson. Yn ystod yr 80au a’r 90au agorwyd gweithdai, stiwdios, caffis, siopau a barrau mewn ffordd organig a gyda’r lleifrif o adnoddau er mwyn cyfarfod â’r galw ac i helpu ariannu’r rhaglen artistig.

Bu dyfodiad Arian Loteri trwy Gyngor Celfyddydau Cymru yn agor y drws ar gyfer prosiect ail-ddatblygu sylweddol a gymerodd bedair blynedd i gynllunio a dwy flynedd I’w wireddu cyn agor i’r cyhoedd ym mis Ebrill 2000. Dylunwyd y prosiect ail-ddatblygiad ysblennydd, gwerth £4.3 miliwn, gan y pensaer Peter Roberts, ac fe ychwanegwyd i’r Ganolfan oriel newydd wych, gofod gweithdy pwrpasol, sinema, stiwdios dawns, theatr stiwdio a rhagor o le yng nghyntedd y brif theatr, y cyfan yn gweithio mewn harmoni gyda strwythur gwreiddiol yr adeilad. Derbyniwyd £2.6 miliwn oddi wrth Gynllun Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer y prosiect.

Cafwyd rhagor o ddatblygiadau ar ddechrau’r mileniwm newydd. Yn ystod y Gwanwyn 2009 cwblhawyd ail-ddatblygiad newydd gwerth £1.25 miliwn i ychwanegu cyfres o stiwdios ar gyfer artistiaid a diwydiannau creadigol, a ddylunwyd gan Thomas Heatherwick, un o ddylunwyr mwyaf blaenllaw’r DU, a enillodd i’r Ganolfan ei thrydedd Wobr oddi wrth yr RIBA a’r unig Wobr i gael ei chyflwyno gan yr Ymddiriedolaeth Ddinesig yng Nghymru yn 2010.

Mae’r Unedau Creadigol yn darparu cartref ar gyfer y sawl sy’n cymryd rhan yn Rhaglen Artistiaid Preswyl y Ganolfan. Ceir artistiaid gweledol o’r DU ac hefyd rhai rhyngwladol a noddir gan ymddiriedolaethau, sefydliadau a mudiadau diwylliannol yn y Ffindir, Canada, Awstralia a Phacistan. ‘Roedd yr unedau’n llawn o’r dechrau, gydag amrediad o artistiaid preswyl, crefftwyr, gwneuthurwyr ffilm, cyfryngau newydd a busnesau creadigol yn gweithio ochr yn ochr â’i gilydd ac yn creu cymuned ddiwylliannol. Cwblhawyd nifer o unedau ychwanegol, gyda nawdd oddi wrth Gyngor Celfyddyau Cymru a Chynulliad Cymru, ym mis Awst 2011 mewn ymateb i’r gofyn gan artistiaid a chwmniau creadigol oedd yn dymuno bod yn rhan o’r gymuned artistig lewyrchus hon.

Mae llwyddiant y datblygiadau hyn yn amlwg o’r holl ffigyrau sy’n cymharu 2000 gyda 2010, gyda’r sawl sy’n mynychu perfformiadau a gweithgareddau bob blwyddyn yn mynd i fyny o 56,000 i 100,000; y sawl sy’n cymryd rhan yn y celfyddydau cymunedol yn codi o 30,000 i 86,000 y flwyddyn; y sawl sy’n mynychu arddangosfeydd yn codi o 40,000 i 200,000 y flwyddyn; y sawl sy’n mynychu’r sinema yn codi o 5,000 i 46,000 y flwyddyn gyda chyfanswm y trosiant blynyddol yn codi o £1.4 miliwn i £4.4 miliwn. O’r swm hwn ‘roedd yr incwm a enillwyd yn gwneud i fyny 78% o gymharu â’r ffigwr ar draws y DU o 45%.

Erbyn heddiw mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, fel rhan hanfodol o’r Brifysgol, yn ddolen gyswllt bwysig gyda’r gymuned leol a rhanbarthol ac mae’n cyfrannu’n gyson at y cyfraddau uchel mewn ystadegau ‘boddhad’ myfyrwyr yn Aberystwyth. Mae’n derbyn cefnogaeth sylweddol oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru tuag at gyflawni ei rôl fel Canolfan Gelf ranbarthol flaenllaw ac hefyd oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion. Bu’r datblygiadau dros y deng mlynedd diwethaf yn sicrhau bod y Ganolfan yn un o’r canolfannau mwyaf ei maint ar gyfer y celfyddydau perfformio a gweledol yn y DU y tu allan i Lundain, wedi’i lleoli yng nghanol campws y Brifysgol ac yn croesawu dros 750,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

  • Prifysgol Aberystwyth
  • Cyngor Cylfyddydau Cymru
  • Llywodraeth Cymru
  • Loteri Genedlaethol
  • Cyngor Sir Ceredigion

Dylunwyd gan View Creative a chrefftwyd gan Tincan