Mae gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth raglen ar gyfer y Gwanwyn sydd mor ddeinamig ag erioed, ac mae rhai o’r perfformiadau mwyaf bywiog yn digwydd ym maes dawns. Mae dawns yn ein cysylltu ac yn dod â phobl, teuluoedd, clybiau, timau, llwythau a chymunedau at ei gilydd. Mae dawns yn ymwneud â byw yn y foment, gwrando ar amrywiaeth o synhwyrau a deffro teimladau.
Mae’n bleser mawr gan y Ganolfan gyflwyno rhaglen ddawns eang gydol y flwyddyn gyda pherfformiadau gan rai o’r cwmnïau dawns mwyaf blaenllaw yn rhyngwladol ac yn y DU, ac hefyd mae ganddi ysgol ddawns sy’n ffynnu gyda stiwdios dawns modern a phwrpasol.
Gallwch fwynhau’r profiad o fynychu 5 perfformiad dawns gwych gyda Phas Dawns y Ganolfan am £50 yn unig (5 perfformiad gwerth £73 neu £61 consesiwn). Holwch ynglyn â dawns ac archebwch eich pas yn y swyddfa docynnau!
01970 623232
artstaff@aber.ac.uk
Y cynhyrchiadau sydd wedi'u cynnwys fel rhan o'r pas yw:
Material Men Redux - Shobana Jeyasingh Dance
6 Chwefror, 7:30pm
Kin - National Dance Company Wales
25 Chwefror, 7:30pm
Everything [But The Girl] - 2Faced Dance Company
29 Chwefror, 7:30pm
Best of BE Festival
25 Mawrth, 7:30pm
Return to Heaven - Mark Bruce Company
28 & 29 Ebrill, 7:30pm