Dawns sy'n ein cysylltu ni yw KIN. Mae'n dod â phobl, teuluoedd, ffrindiau, clybiau, timau, llwythau a chymunedau ynghyd. Mae CDCCymru yn perfformio gwaith am farddoniaeth, chwaraeon a hunaniaeth ar draws tri darn pwerus o ddawns.
Mae Lunatic gan Nigel Charnock yn cynnig cyffro llawn egni. Yn llawn hwyl, yn berthnasol ac yn gyfareddol. Mae’n cyfuno ffasiwn a cherddoriaeth fintej (megis Moonlight Serenade gan Glen Miller) gyda diwylliant pop y 90au.
“Mae'r darn yn cael ei ddylanwadu'n fawr gan y 1950au gyda gwisgoedd wedi’u hysbrydoli gan y ddegawd hynod ddiddorol hwnnw ychydig ar ôl y rhyfel, a oedd yn llawn gobaith nas gwireddwyd o amseroedd gwell a ffyniant." Nigel Charnock
Ysbrydolwyd Lunatic gan gwestiynau ynghylch cenedligrwydd, rhyw a dosbarth, ac fe’i crëwyd gyntaf ar gyfer CDCCymru 10 mlynedd yn ôl: mae wedi cael ei adfywio oherwydd ei bod yn amlwg bod angen i’r byd brofi dawns fel hyn eto.
Mae 2067: Time and Time and Time yn gain. Mae’r dawnswyr yn datgelu cerdd drawiadol, ynghylch y berthynas rhwng hanes amser a barddoniaeth tynged. Mae wedi ei goreograffu gan Alexandra Waierstall, a anwyd yn Lloegr, a fagwyd yng Nghyprus ac sydd bellach yn byw yn yr Almaen. Mae Waierstall yn creu gwaith sy'n symud grwpiau o gyrff sydd ag ymdeimlad cryf o gerddoroldeb a chorfforolrwydd barddonol; ac yn y gwaith newydd hwn ar gyfer CDCCymru mae’n archwilio syniadau o wahanol fathau o amser a chanfyddiadau o amser.
Mae Rygbi: Yma / Here gan Fearghus Ó Conchúir, Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru, yn codi calon: yn llawn gobaith, gogoniant a chyfeillgarwch. Mae’n dathlu’r balchder a’r angerdd y mae chwaraewyr a chefnogwyr rygbi yn ei brofi gyda’i gilydd. Cafodd Rygbi ei greu gyda chwaraewyr a chefnogwyr y gêm i wir adlewyrchu’r gamp genedlaethol ac fe’i dangoswyd am y tro cyntaf yn Eisteddfod 2019, ers hynny mae wedi bod ar daith ochr yn ochr â Chwpan Rygbi'r Byd yn Japan yn ogystal ag ar draws Cymru.
+ sgwrs ar ôl y sioe gyda'r cyfarwyddwr ymarfer a dawnswyr
Mae cyfle i ysgolion a teuluoedd ddysgu rywfaint o goreograffi a gweld darn o'r sioe fel rhan o Discover Dance, ar Chwefror 26ain.