Croeso i stori anhygoel Y Tywysog Bach, a ailadroddir yn y sioe fyw hon gan beilot sy'n sownd yn y diffeithwch.
Ffeindiwch allan sut mae'r Tywysog Bach yn gadael ei blaneden fach ei hun, a'i rosyn annwyl, ac yn teithio trwy'r bydysawd, gan ddod wyneb yn wyneb â byd annealladwy oedolion! A ydych erioed wedi clywed am frenin sy'n teyrnasu dros ddim byd? Neu ddyn busnes sy'n cyfrif sêr yn obsesiynol? Unwaith mae'n cyrraedd y blaned Ddaear, croesewir y Tywysog Bach gan neidr ddirgel a llwynog hynod doeth a chyfeillgar cyn dod ar draws y peilot unig. Gyda'i gilydd maent yn darganfod pŵer a phrydferthwch cyfeillgarwch a chymhlethdod serch.
Yn seiliedig ar y stori fyd-enwog gan Antoine de Saint-Exupéry, mae cwmni Protein yn rhoi bywyd newydd i'r hanes trwy ddefnyddio'i gymysgedd arobryn o ddawns, hiwmor a'r gair ar lafar. Gyda sgôr wreiddiol gan Frank Moon, dylunio gan Yann Seabra a goleuo gan Jackie Shemesh, mae sioe newydd cwmni Protein yn ein gwahodd i edrych ar y byd trwy ein calon ac i aill-gysylltu â'n plentyn mewnol.
Yn addas ar gyfer plant hen ac ifanc.
Cliciwch yma i ddarganfod mwy am weithdy cyffrous sy'n cyd-fynd â'r perfformiad!
Grown-ups never understand anything by themselves, and it is tiresome for children to be always and forever explaining things to them” Antoine de Saint-Exupéry
All grown-ups were once children... but only few of them remember it.” Antoine de Saint-Exupéry
⭐⭐⭐⭐"St-Exupéry’s enigmatic tale [...] delivered with quirky charm. Prendergast is touchingly excellent in the title role" The Observer
⭐⭐⭐⭐ “Charming, imaginative and playful” The Stage