Mewn gwaith dawns cyfoes rhyngwladol eofn ac elfennol, wedi'i berfformio a'i wylio o gwmpas set sy'n troi, mae chwe chorff yn gwthio yn erbyn ei gilydd mewn llif trawsnewidiol di-dor.
Mae eu hymdrech ddiddiwedd yn mynd tuag at bob moment barhaus a bychan. Mae'r cwbl er lles pawb, a'r nod cyffredin. Mae pob moment yn cyfrif, ac mae ymdrech pawb yn bwysig.
Daeth y coreograffwyr a pherfformwyr rhyngwladol unigryw hyn (gan gynnwys Eddie Ladd) ynghyd i ddod o hyd i ffordd newydd o gydweithio. Fe wnaeth aflonyddwch gwleidyddol eu mamwledydd gynnau papur tanio'r cyfnewid rhyngddynt, gan greu microcosm ffisegol o gydweithio a chyd-drafod sy'n angenrheidiol ar gyfer yr oes gythryblus sydd ohoni.
Mae iCoDaCo (Cydweithfa Dawns Gyfoes Ryngwladol), sydd wedi'i gynhyrchu yn y DU gan Gwyn Emberton Dance, yn brosiect rhyngddiwylliannol a gynhelir bob dwy flynedd, ac yn dod ag artistiaid a chynhyrchwyr o bedwar ban y byd ynghyd i gydweithio a chreu gweithiau dawns cyfoes. Mae'r rhifyn hwn wedi'i gefnogi gan raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Chyngor Celfyddydau Sweden.
Perfformir yn Stiwdio Emily Davies, Adeilad Parry Williams.