Cyfuniad syfranol o adrodd straeon, dawns a theatr gorfforol mewn un noson ddifyr.
Pob blwyddyn mae BE FESTIVAL yn pecynnu tair o'u hoff sioeau o'u gŵyl ryngwladol ac yn eu hanfon ar daith o'r DU. Bydd tri chwmni o Wlad Belg, Sbaen a Hwngari yn cyflwyno darnau o adrodd straeon, dawns a theatr gorfforol mewn tair sioe 30-munud, y cyfan mewn un noson ddifyr a bywiog.
Mae'r artist-dawns Hwngaraidd Anna Biczók yn cyfuno atgofion, dychymyg a phersbectifau newidiol i ystyried ffenomena ‘profiad’ yn ei darlith ddawns solo Precedents To A Potential Future.
Yn The Sensemaker o’r Swistir, mae dawnswraig fud yn mynd i banig ac yn straenio i gadw ei darn mewn amser i’r trac sain sydd wedi’i dorri a’i gwnïo. Mae darnau bach o gerddoriaeth a’r gair llafar yn cael eu cyferbynnu er mwyn gwthio’r prif gymeriad i'r eithaf.
Mae Levitations gan Hannah De Meyer o Wlad Belg yn daith dywyll, ddoniol a swrreal o gwmpas bydysawd Hannah. Yn ddiymdrech mae'n cyfuno symudiad a barddoniaeth lle mae gobaith ac anobaith, bodoli a pheidio â bodoli, rhywioldeb, serch ac angau yn cael eu cyd-gyflwyno. Yn anffodus, oherwydd salwch, ni fydd Hannah De Meyer yn medru perfformio ar ddydd Mercher, 25ain Mawrth. Felly, bydd fersiwn hyd-llawn Precedents To A Potential Future a The Sensemaker yn cael eu perfformio i lenwi'r bwlch. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Canllaw oed 14+
“a whirlwind of thought-provoking pieces of pure performance art, theatrical, musical and comedic brilliance.” ★★★★★ What’s On 2018
Nodyn cynnwys: mae'r sioe'n cynnwys cyfeiriadau at ddefnydd o gyffuriau, ac iaith anweddus. Mae defnydd o niwl a goleuadau sy'n fflachio ar adegau yn y sioe.