CRIW CELF: GALWAD AGORED I ARTISTIAID CYMUNEDOL YM MAES Y CELFYDDYDAU GWELEDOL / OPEN CALL TO VISUAL ARTS COMMUNITY ARTISTS
GALWAD AGORED I ARTISTIAID CYMUNEDOL YM MAES Y CELFYDDYDAU GWELEDOL
CRIW CELF CEREDIGION
[YN GWEITHIO O GANOLFAN Y CELFYDDYDAU ABERYSTWYTH]
CRYNODEB O’R PROSIECT
Mae Criw Celf yn brosiect ar gyfer artistiaid ifanc talentog rhwng 10 a 18 oed. Mae’n rhan o gynllun cenedlaethol i feithrin talent ifanc yn y Celfyddydau Gweledol.
Mae’r gweithdai creadigol yn anelu at ehangu gwybodaeth y bobl ifanc ynglyn â chelf, meistroli technegau newydd, arbrofi, adeiladu hyder a datblygu eu hiaith weledol eu hunain.
Anogir y sawl sy’n cymryd rhan i ddangos y gwaith a gynhyrchir ganddynt yn y sesiynau Criw Celf i’w hathrawon celf. Fel canlyniad, mae rhai o’r darnau gwaith yn cael eu cynnwys mewn portffolios ar gyfer arholiadau.
Mae ‘na bosibilrwydd y bydd y gwaith a gynhyrchir gan y bobl ifanc yn cael ei arddangos mewn arddangosfa arbennig yng Nghanolfan y Celfyddydau.
Noddir y prosiect yn ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth oddi wrth Gyngor Sir Powys, ac mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn gweithio mewn partneriaeth gyda Peak ac Oriel Davies.
MYNEGI DIDDORDEB
‘Rydym yn gwahodd mynegiadau o ddiddordeb oddi wrth Artistiaid Cymunedol ym maes y Celfyddydau Gweledol sydd â chefndir cryf yn y celfyddydau cyfranogol. Dylai’ch cais gynnwys llythyr eglurhaol, CV, a dolen i wefannau sy’n dangos enghreifftiau o’ch gwaith.
Mae Criw Celf Ceredigion yn darparu cyfle i Artistiaid Cymunedol yn y Celfyddydau Gweledol i roi dosbarthiadau meistr i bobl ifanc (ar-lein neu wyneb yn wyneb) yn ogystal ag adeiladu cysylltiadau gyda’n mudiadau celf.
‘Rydym yn awyddus i recriwtio artistiaid amrywiaethol gyda phrofiad ac egni mewn llu o wahanol ffurfiau ym maes y celfyddydau gweledol, er mwyn dod â phersbectif newydd i’r Criw Celf.
Mae croeso i artistiaid o bob diwylliant a chefndir, rhai newydd a sefydledig, i gynnig cais.
Bydd angen i’r artistiaid fod yn hyderus wrth gyflwyno gweithdai ‘mewn person’ ar gyfer disgyblion Blwyddyn 5 & 6 a Blwyddyn 7-13.
GOFYNION
• Disgwylir i artistiaid gyflwyno un gweithdy yn y bore ac un yn y prynhawn.
• Bydd angen i un gweithdy fod yn addas ar gyfer oedran Cynradd10-11 oed a’r ail yn addas ar gyfer oedran Uwchradd 12-18 oed.
• Rhaid i artistiaid feddu ar gefndir cryf o weithio gyda chyfranogwyr mewn gweithgareddau celf cynhwysol gyda gweledigaeth artistig glir a threfnus.
• Bydd angen i artistiaid gydweithio’n agos gyda chydlynydd y prosiect er mwyn gwireddu gweledigaethau’r Criw Celf.
• Awgrymir bod syniadau ar gyfer y gweithdai yn cymryd ysbrydoliaeth oddi wrth ac yn gysylltiedig â’r rhaglen arddangosfeydd bresennol yn y Ganolfan - gweler isod.
• Bydd angen i artistiaid weithio mewn modd diogel a phroffesiynol er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol, a chyfyngiadau Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â COVID-19.
• Bydd angen i artistiaid weithio gydag eraill i ddarparu asesiadau risg yn unol â pholisïau Iechyd a Diogelwch y mudiad cyn ymgymryd â gweithgareddau.
• Bydd angen i artistiaid ddilyn polisïau a gweithdrefnau diogelwch Prifysgol Aberystwyth.
Mae Canolfan y Celfyddydau yn ymrwymedig at ddatblygu ac hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywioldeb ar draws ein hymarfer. Anelwn at weithio, astudio a darparu diwylliant cynhwysol, heb unrhyw anffafriaeth, sy’n cynnal gwerthoedd parch, urddas a chwrteisi. Mae gan bob unigolyn yr hawl i gael ei drin yn unol â’r gwerthoedd hyn. ‘Rydym yn ymrwymedig at hybu cydraddoldeb ar sail oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhyw a rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd a chred (gan gynnwys diffyg gred), priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, ac i gynnwys croestoriad a chodi ymwybyddiaeth rhwng ac ar draws gwahanol grwpiau.
SUT I GYFLWYNO CAIS
Dylid e-bostio mynegiadau o ddiddordeb mewn cynnal gweithdai yn y Celfyddydau Gweledol at rmt@aber.ac.uk erbyn canol dydd, Dydd Llun 16 Mai 2022.
Gosodir ymgeiswyr ar restr fer ac fe’u gwahoddir i baratoi cynnig manwl ar gyfer gweithdy, i’w gyflwyno i gydlynydd y Criw Celf, ein rheolwr Dysgu Creadigol a’n Rheolwr Celfyddydau Gweledol (Curadur) - dyddiad i’w gadarnhau.
Mae’r cyfle yn agored i unrhyw artist, rhai newydd a phrofiadol, sy’n cyfarfod â’r anghenion a restrir uchod.
• Ffi’r Artist - £250 y diwrnod
• Dyddiadau’r gweithdai – 18-23 Gorffennaf 2022
• Dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb - canol dydd, Dydd Llun 16 Mai 2022
CYSWLLT
Anfonwch unrhyw ymholiadau at Rachael Taylor, Criw Celf Ceredigion, cydlynydd y prosiect: rmt@aber.ac.uk
[arddangosfeydd a gynhelir yng Nghanolfan y Celfyddydau yn ystod 2022 https://www.aberystwythartscentre.co.uk/cy/node/1213]