DYMA SGRINIAD RHITHWIR I’W WYLIO YN EICH CARTREF. Byddwch hefyd yn cefnogi Canolfan y Celfyddydau sy’n derbyn cyfran o werthiant bob tocyn.
Bartosz Kruhlik. 2019. Gwlad Pwyl. 1awr 18munud, sub
Yn dilyn damwain daro a ffoi farwol, daw lôn wledig dawel ar ddiwrnod heulog yn llwyfan ar gyfer drama danbaid. Yn datblygu mewn amser real, ac wedi’i ffilmio’n gyfangwbl mewn un lleoliad, mae camera crwydrol, holgar yn gwylio wrth i aelodau o’r cyhoedd, yr heddlu, perthnasau, y gwasanaethau argyfwng ac, yn y pendraw, gyrrwr y car, gyrraedd y sîn. Mae tensiynau’n codi, cysylltiadau yn cael eu datgelu a daw’r safle yn rhyw fath o adlewyrchiad o gymdeithas, yn ystyried sut y gall rhagfarn, gwahaniaethau cymdeithasol a dicter cymunedol achosi anghyfraith ac ymddygiad afreolus. Ceir yma sgript frathog, perfformiadau ffyrnig, cyflymdra didostur ac elfennau o hiwmor du, y cyfan yn cyfuno i roi i chi brofiad llawn gwewyr a fydd yn eich gadael yn fyr o wynt.
Mae’n anodd dewis un peth sy’n gyfrifol am lwyddiant y ffilm hon; mae sgript a chyfarwyddo Bartosz Kruhlik yn groyw ac yn finiog ond mae’r perfformiadau hefyd yn wych a daw popeth at ei gilydd yn berffaith. - Eye For Film
yn llawn cynnwrf ac yn gyfoethog o safbwynt ystyr, ffilm gyntaf wefreiddiol - Cineuropa
VIDEO
Cliciwch ar y ddolen hon i wylio’r ffilm: https://watch.yourscreen.net/film/supernova/ PEIDIWCH AG ANGHOFIO DEFNYDDIO’R CÔD "ABERYS" WRTH DALU ER MWYN CAEL GOSTYNGIAD O 25% AR EICH TOCYN