Skip to Navigation ↓
Not a member yet?
Register now!
Archebwch ar-lein
SWYDDFA DOCYNNAU: 01970 62 32 32
Maw 2 Gorffennaf
Gallwch fwynhau darllen y wybodaeth am y gweithgaredd hwn ond ni fedrwch archebu ar-lein ar ei gyfer.
Small IslandAddasiad gan Helen EdmundsonYn seiliedig ar y nofel gan Andrea Levy
Mae'r nofel a enillodd y Wobr Orange gan Andrea Levy, Small Island, yn dod i fywyd mewn addasiad theatr newydd. Profwch y ddrama mewn sinemâu, wedi'i recordio fel yn fyw fel rhan o benblwydd National Theatre Live yn 10. (Dyma ail-ddangosiad o'r perfformiad.)
Mae Small Island yn mynd ar daith o Jamaica i Brydain, drwy'r Ail Ryfel Byd i 1948 - y flwyddyn dociodd y HMT Empire Windrush yn Tilbury. Mae'r ddrama'n dilyn tri hanes sy'n rhyngblethu a'i gilydd. Mae Hortense yn ysu am fywyd newydd i ffwrdd o Jamaica wledig, mae Gilbert yn breuddwydio am fod yn gyfreithiwr, ac mae Queenie'n awyddus i ddianc ei gwreiddiau Sir Lincoln. Mae gobaith a dynoliaeth yn cwrdd â realaeth ystyfnig wrth i'r ddrama llunio'r hanes dryslyd Jamaica a Phrydain.
Mae cwmni o 40 actor ar lwyfan y National Theatr yn y stori deimladwy ac amserol hon.
Designed by View Creative & crafted by Un.titled
‘Rydym yn defnyddio cwcis i wella eich profiad. Trwy wylio cynnwys ein gwefan ‘rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Darllenwch ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis.