DYMA SGRINIAD RHITHWIR I’W WYLIO YN EICH CARTREF. Byddwch hefyd yn cefnogi Canolfan y Celfyddydau sy’n derbyn cyfran o werthiant bob tocyn.
Cenk Ertürk. 2019. Twrci. 1awr 49munud, sub
Dymuniad olaf tad Omer, sydd ag afiechyd terfynol arno, ac sydd wedi ymddieithrio oddi wrth ei fab, yw i gael ei gladdu o dan y “Goeden Noa” y mae’n honni y plannwyd ganddo flynyddoedd yn ôl. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i Omer, sy’n wyllt ei dymer ac sy’n dioddef creisis canol-oed, wynebu y pentrefwyr sy’n credu mai’r goeden "sanctaidd" yw’r goeden gyntaf a blannwyd gan y proffwyd Noa ar ôl y Dilyw Mawr a bod ganddi’r pŵer i ateb eu gweddïau. Dyma ystyriaeth ddwys o ego gwrywaidd yn nhraddodiad Nuri Bilge Ceylan, yn serennu Haluk Bilginer a chwaraeodd y brif ran yn ‘Winter Sleep’.
Mae gan ddynion yr hawl i ddangos gwendid ac mae Noah Land yn ein hatgoffa o’r ffaith honno - Film Threat
Ffilm sy’n ymchwilio cwestiynau ethegol ynglyn â phris buddugoliaeth tra’n pwyso a mesur y duedd ddynol i ymateb o dan amgylchiadau eithafol. Wrth i Ömer ac Ibrahim ddechrau agor i fyny i’w gilydd, daw hon hefyd yn stori am ewyllys da - yn nhermau ymddiried ym mwriadau rhywun arall ac ymddiried yn eich bwriadau chi’ch hun - Gŵyl FfilmiauTribeca
Cliciwch ar y ddolen hon i wylio’r ffilm: https://watch.yourscreen.net/film/noah-land-nuh-tepesi/ PEIDIWCH AG ANGHOFIO DEFNYDDIO’R CÔD "ABERYS" WRTH DALU ER MWYN CAEL GOSTYNGIAD O 25% AR EICH TOCYN