DYMA SGRINIAD RHITHWIR I’W WYLIO YN EICH CARTREF. Byddwch hefyd yn cefnogi Canolfan y Celfyddydau sy’n derbyn cyfran o werthiant bob tocyn.
Tizza Covi / Rainer Frimmel. 2016. Yr Eidal / Awstria. 1awr 30munud. Tystysgrif FFF, sub
Mae’r dofwr-llewod ifanc, aflonydd Tairo ar ymgyrch i ailddarganfod ei dalismon lwcus sydd ar goll - darn o haearn mewn siâp pedol a roddwyd iddo pan ‘roedd yn 5 oed gan ‘Mister Universo’. Hebddo mae ei fywyd yn teimlo’n ddigalon iawn. Mae’r ffilm neo-realydd gyflym hon yn gymysgedd diddorol ac anghyffredin o ffilm ddogfen a ffuglen, lle mae pobl syrcas go iawn yn chwarae eu hunain. Mewn stori sy’n llawn lliw a chyfaredd, mae perwyl Tairo yn ei ail-uno gydag hen ffrindiau a chydweithwyr ac yn troi’n fuan yn daith garlamus o gwmpas diwylliant syrcas yr Eidal. Gyda chymorth ei edmygydd dawel Wendy, sy’n ystumwraig heb ei hail, mae’r ffilm yn dod i ben ar nodyn gobeithiol pan mae Tairo o’r diwedd yn dod o hyd i 'Mr Universo'.
Pelen anferth droellog dreiglol o ffilm sy’n llawn hwyl - Scene Creek
… ffilm gyfoethog gyda delweddaeth syrcas gyffrous sy’n rhoi cefnlen fynegiadol i’r stori. Yn emosiynol ac yn sinematig, mae “Mister Universo” yn rhoi cynhesrwydd arbennig i’w chefndir bisâr - Indiewire
VIDEO
Cliciwch ar y ddolen hon i wylio’r ffilm: https://watch.yourscreen.net/film/mister-universo/ PEIDIWCH AG ANGHOFIO DEFNYDDIO’R CÔD "ABERYS" WRTH DALU ER MWYN CAEL GOSTYNGIAD O 25% AR EICH TOCYN