Gan ddathlu 20 mlynedd o sinema’r byd syfrdanol yng Nghymru, mae Gŵyl Ffilm WOW Cymru a’r Byd yn Un mewn partneriaeth â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn dychwelyd y mis Mawrth hwn ar ffurf eithaf gwahanol. Yn lle prynu tocynnau i fynd i mewn i sinema dywyll, bydd mynychwyr yr ŵyl yn gwneud eu hunain yn gyffyrddus ar eu soffas i wylio’r ffilmiau'n ffrydio ar-lein, yn rhad ac am ddim.
Mae Gŵyl Ffilm WOW sy’n rhad ac am ddim yn agor ar ddydd Iau 11eg Mawrth, 10 mlynedd i’r diwrnod ers daeargryn dinistriol Japan a arweiniodd at chwalfa niwclear Fukushima. Y ffilm gyntaf, a ddewiswyd i nodi'r pen-blwydd trist hwn, yw 3:11 A Sense of Home, casgliad Naomi Kawase o ffilmiau byr gan gyfarwyddwyr fel yr enillydd Oscar Bong Joon Ho (Parasite), Victor Erice a Patti Smith sy'n archwilio themâu amserol adnewyddu, adfer a chartref.
Mae detholiad “Sgrîn Werdd” Gŵyl Ffilm WOW yn cynnwys sawl ffilm amgylcheddol. Ymhlith nifer o siaradwyr gwadd rhyngwladol Gŵyl WOW eleni mae Peter Wohlleben y ceidwad coedwig o’r Almaen a drodd yn awdur hynod llwyddiannus, y mae ei ffilm The Hidden Life of Trees yn cael ei premiere ar-lein yn y DU. Y mudiad bwyd lleol cynyddol yw thema’r rhaglen ddogfen First We Eat, a bydd ei chyfarwyddwrSuzanne Crocker yn ymuno’n fyw o Yukon rewllyd yng Nghanada.
Yn un o’r un ar bymtheg premiere ar-lein, mae'r Sanctorum rhyfedd a gwych yn portreadu grym anhygoel natur ar waith er mwyn amddiffyn y ffordd draddodiadol o fyw mewn pentref mynyddig. Bydd y ffilm Belovedam fenyw 82 oed sydd wedi ymroi i'r mynyddoedd gwyllt a’i gwartheg yn ymddangos ochr yn ochr â sesiwn Holi ac Ateb gyda'r cynhyrchydd Elaheh Nobokht o Dehran.
Angen chwerthin? Mae ffilmiau sy'n gwneud i ni deimlo'n dda yn cynnwys y comedïau Arab Blues sy'n serennu Golshifteh Farahani, yr actores yn alltud o Iran (Paterson, The Patience Stone); The Whaler Boysydd wedi’i gosod yn erbyn cefndir barddonol gweledol Culfor Bering a Joy, rhaglen ryngwladol o ffilmiau byr wedi'u curadu o'r goreuon o Ŵyl Ffilm Iris LGBT+.
Mae yna ddigon o wylio teuluol hefyd. Mae Lunana: A Yak in the Classroom yn ddrama dorcalonnus wedi'i lleoli yn ysgol fwyaf anghysbell y byd, yn uchel ym mynyddoedd Bhutan. Mae Delfín yn dilyn bachgen ifanc y mae ei benderfyniad i gael clyweliad ar gyfer cerddorfa blant yn mynd ag ef a'i dad ar antur sy'n newid bywyd. Mae Gŵyl Animeiddio Japaneaidd Kotatsu yn ymuno â dathliad Diwrnod Rhyngwladol y Merched Clwb Ffilm Merched WOW gyda detholiad o animeiddiadau byr sy’n addas i deuluoedd gan animeiddwyr benywaidd addawol yn Japan. Mae Running to the Sky yn dilyn hynt Jekshen, rhedwr ifanc sy’n cystadlu am y brif wobr mewn rasys rhedeg traddodiadol Kyrgyzstan.
Mae natur, duwiau a chyfriniaeth yn ymddangos yn llinyn “Ffilmiau Rhyfedd ar gyfer Dyddiau Rhyfedd” WOW. Mae unig gyfarwyddwr ffilm benywaidd Laos, Mattie Do, yn siaradwr gwadd arall, ochr yn ochr â’i stori ysbryd hyfryd The Long Walk, a gyflwynir gan Ŵyl Abertoir. Mae Abertoir hefyd yn cyflwyno Roh, ffilm arswyd werin iasol o Falaysia. Yn Tantas Almas/Valley of Souls, sydd am ryfel cartref Colombia, mae awyr gorsiog afon odidog Magdalena yn drwch o ddirgelwch ac ofn.
Dydd Sadwrn 20fed Mawrth yw Nowruz, neu Flwyddyn Newydd Persia. Bydd y curadur ffilm o Iran, Ehsan Khoshbakht, yn cyflwyno ei ffilm am fyd bywiog Filmfarsi, genre poblogaidd o sinema'r 1960au a 70au, ochr yn ochr â première ar-lein y DU o'r fersiwn wedi'i hadfer o'r ffilm orau erioed o Iran, The Deer, prin y’i gwelir y tu allan i Iran.
Bydd Gŵyl Ffilm WOW 2021 yn cloi ar ddydd Sul 21 Mawrth, trwy ddathlu Diwrnod Coedwigoedd Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig. Gyda'r argyfwng hinsawdd, mae pawb yn siarad am blannu coed. Ond ydyn ni'n mynd ati yn y ffordd iawn?
Meddai Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm WOW, David Gillam:
“Mae wedi bod yn gyffrous iawn i roi ein gŵyl ar-lein gyntaf at ei gilydd. Nawr gall pobl unrhyw le yn y DU ymuno â'r parti a darganfod yr hyn y mae cynulleidfaoedd Cymru wedi'i fwynhau ers ugain mlynedd. Hoffem ddiolch i'n holl gyllidwyr a noddwyr sydd wedi ei gwneud hi'n bosibl i ni fywiogi'r dyddiau tywyll hyn trwy ddarparu'r ŵyl ar-lein yn hollol rad ac am ddim. Heb gefnogaeth Cronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru, ni fyddai’r ŵyl rad ac am ddim hon wedi bod yn bosibl. Dim ond ffynnu cyhyd â hyn a wnaethom diolch i gefnogaeth llawer o bartneriaid gwych. Ond hoffwn ddiolch yn arbennig i bawb yn ein ‘cartref ysbrydol’ yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ni allem fod wedi cynnal gŵyl eleni hebddynt. Mae gwyliau ffilm eraill yng Nghymru hefyd wedi darparu cefnogaeth hanfodol. Yn ogystal â dod â'r byd i Gymru, trwy fynd â WOW ar-lein, gallwn allforio'r gorau o wyliau ffilm Cymru i weddill y DU. Hoffwn hefyd ddiolch i'r nifer fawr o bobl sydd wedi cefnogi WOW dros yr ugain mlynedd diwethaf.”
Ariennir gŵyl Ffilm WOW gan Gronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru, Ffilm Cymru Wales, Cronfa Cymunedau’r Loteri Genedlaethol a Chanolfan Ffilm Cymru fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI (FAN), a wnaed yn bosibl gan y Loteri Genedlaethol.
I gael yr holl newyddion am yr ŵyl, ewch i www.wowfilmfestival.com a thanysgrifiwch i'r cylchlythyr.